Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y RYD. Rhif 7. GORPHENAF, 1896. Cyf. VI. "BENJAMIN FRANRLIN, A'I DDYLANWAD AR WLEIDYDDIAETH AMERICA." Ysgrif II.—Hanes Bywyd Franrlin." Yr adeg hon y daeth Franklin ieuanci gydnabyddiaeth a SyrWilliam Keith, llywydd y drefedigaeth. Pa fcdd y llwyddodd bacbgenyn tlawd, dwy ar bymtheg mlwydd, i ymgydnabyddu a gwr o safíe mor uchel.ac anrhydeddus sydd anhawdd penderfynu. Dywedir mai gweled llythyr o eiddo Franklin at ei frawd-yn-nghyfraith, un o'r enw Holmes, tra ar ymweliad a Newcastle a wnaeth, ac iddo gael ei synu gymaint at allu a thalent dyn mor ieuanc fel y penderfynodd wneud ymchwiliad am dano wedi dychwetyd i Philadelphia. Beth bynag am hyny, profodd y gwr caredig hwn o gynorthwy mawr i Franldin ar yr adeg yma o'i fywyd; oblegid trwy ei ddylanwad ef y penderfynodd ymweled a Lloegr y waith gyntaf. Perswadiodd Reith ef i ddechreu argraffu ar ei gyfrifoldeb ei bun, ac er mwyn iddo ym- gydnabyddu a gwelliantau diweddaraf yr alwedigaeth, cymhellodd ef i fyned drosodd i Lloegr i geisio y pethau angenrheidiol er sefydlu swyddfa argraffu, y byddai efe yn gyfrifol am y gôst, ac y caffai yntau dalu fel y medrai. Ar bwys addewid mor werthfawr o eiddo gwr a gyfrifid yn anrhydeddus, a'r hwn hefyd oedd swyddog uchel a chyfrifol dan y llywodraeth, croesodd Franklin y Werydd yn y flwydd- yn 1725. Ond erbyn cyrhaedd Lloegr, cyfarfu a pìirofedigaeth danllyd. Nid.oedd ýno y'r un llythyr oddiwrth Keith, ac ni chlywodd byth air oddiwrtho. Ond nid gwr i dori ei galon o herwydd siomedig- aethau j'doedd Franklin. Er ieuenged ydoedd, ac er nad adwaenai neb yn Lloegr, eto ymwrolodd, a gwregysodd ei lwynau i ymladd brwydr fawr bywyd. Yn fuan cafodd waith fel argraffydd gydag un Palmer, yn Bartholomew Close, Llundain. Arhosodd gydag ef yspaid blwyddyn, yna symudodd i swyddfa argraffu Watts, yn agos i Lin- colns-inn-fields. Ymroddodd ati a'i holl egni, a gweithiodd yn galed ddydd a nos er mwyn llw3?r feistroli y gelfyddyd. Yn ystod yr holl amser yma nid yfai win na diod gadarn, ac eto fel y bechgyn hyny yn Babilon, cyflawnai gymaint arall o waith, ac ymddangosai 3?n gryf- ach o gorph, ac yn alluocach o feddwl na'i gydweithwyr diotgar