Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. Rhie 8. AWST, 1896. Cyf. VII, «BENJAMIN FRANRLIN, A'I DDYLANWAD AR WLEIDYDDIAETH AMERICA." YsgriF lîl.—Frakklîx pel Gwleidyddwr, Dywed Thomas Carlyle yn rhywle e:riau tebyg i hyn :—" Mae as- tudiaeth fanwl o'r natur ddynol, yn ei gwahanolagweddau, a'i threigl- iadau, wedi bod, ac yn parhan yn un ó'r pethau mwyaf dyddorol ac at-dyniadol sydd yn bosibl. Hanes dynion, a'r hyn a wnaethant sycld mewn gwirionedd yn cyfansoddi hanes y byd a breswylir genym, Megis mai bywgraffiad yw yf Efengyl odidocaf ac aruchelaf a welodd y byd erioed, felly hefyd mae bywyd pob dyn gwTir fawr, a gwir dda, eto yn cyfansoddi efengyl ynddo ei hun, ac yn pregethu yn nerthoi ac effeiíhiol i'r llygad, i'r galon, ac i'r holl ddyn." Ni chafodd y geiriau uchod, o eiddo athronydd athrylithgar Chelsea, eu gwireddu yn ilwyr- ach ac yn fwy cyflawn yn hanes unrhyw wiad, nag }7n hanes Unol Dalaethau America. Ỳn wir mae yn anmhosibi hanesyddu America, heb hefyd hanesyddu y gwyr enwog fuont a llaw arbenig yn ei dad- b]\'giad yn foesol, cymdeithasol, a gwladol. Pa werth fuasai yn per- thyn i'r Unoi Dalaethau rhagor Twrci neu China, oni buasai am y " Tadau Pererinol" dair canrif }rn ol, ynghyd a George Washington, Benjamin Franklin, Jefferson, a llu eraiii, mewn oes ddiweddarach. Hwyrach na chafodd yr un wlad ^erioed, mewn cyn lleied o amser, ei breintio â chynifer o ddyngarwyr pur, a gwladgarwyr doeth a galluog, ag a gafodd America. A'r hyn s)rdd yn hynod yn hanes ei meibion enwog i gyd yw, mai dynion ydynt wredi codi o ddim. Magodd a meithrinodd íeioion a merched nad oes eu hafal, o ran rhif ac enwogrwydd, yn un wlad arall tan haul. Codai y plant hyn i fynu a galwent hi yn fendigedig; earent hi â'u holl enaid, a pharod oeddynt ar bob achlysur i aberthu eu buddianau, a cholli y dyferyn olaf o'u gwaed dros anrhydedd ac iawnderau eu mam wlad. Yn y rhenc fiaenaf, yn mhlith ei meibion, y saif Benjamin Franklin, yrhwm mewn rhai pethau a ragorodd arnynt oll. Goddefer i ni yn awr geisio •dangos pa ran arbenig a gymerodd y gwr enwog hwn yn sylfaeniad, fíurfiad, a dadblygiad y Weriniaeth Fawr Orllewrinol.