Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y RYD. Rhif 9. MEDI, 1896. Cyf. VI. "BENJAMIN FRANRLIN, A'I DDYLANWAD AR WLEIDYDDIAETH AMERICA." Ysgrif IV.—Franrlin fel Gwleidyddwr. II. Y rhan a gywerêdd FranUin yn y gwaith o sefyâhi A nnibyniaeth yr Unol Dalaethau. Yr ydym yn awr wedi dyfod wyneb yn wyneb ag amgylchiad a brofodd fod yr Americaniaid o wneuthuriad rhagorach nag y dych- ymygodd calon Lloegr erioed, Profodd yr argyfwng oedd wrth y drws fod piant yr hen Buntaniaid yn deilwng o'n tadau enwog, yn eu hysbryd annibynol ac yn eu sel dros eu hiawnderau a'u rhyddid gwladol. Aethant i lawr i Bozrah gan lwyr' gredu yn hghyfiawnder eu hachos, a daethant i fynu o Edom wed; llwyr orchfygu euholl elynion. Camsyniad raawr Prydain oedd synied yn rhy ìsel am allu, adnoddau, a gwroldeb yr Americaniaid. Yn malchder ei chalon, tybiai y wlad hon y gallasai wneud fel yr êwyliysiai â'u cefnderwyr yr ochr arall i'r dwrr. Ond buan y profwyd unwaith yn chwaneg nad yw- y rhyfel bob amser )-n eiddo y cedym. Yr ôedd cyfiawnder o du yr Americaniaid, ac am hyny ofer oedd i Shon Ben Tarw wingo yn erbyn y symbylau. Trefnodd rhagluniaeth hefyd fod un o'r prif weinidogion salaf amwyaf diwerth a fu yn Lloegr erioed, yn eistedd ar y pryd wrth lyw y deyrnas hon. Yr oedd Arglwydd North mor amddifad o allu a thalent wleid- yddol ag oedd y fyddin a'r llynges o swyddogion doeth ac arweinwyr gwrol. Ni fu erioed fwy o fongJerwaith na yr ymosodiad anghyfiawrn hwnw o eiddo Prydain ar ryddid ac iawnderau America. Dywedasom yn barod mai y Stamp Act a barodd i'r gwrthryfel dori allan. Pasiwyd deddf gan weinyddiaeth Grenville i drethu y trefedig- aethau, ond diddymwyd hi gan weinyddiaeth Rockingham, yr hon a