Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. Rhif 2. CHWEFEOR, 1808. Cyf VIII. ETIFEDDiAETH Y BOBL. Gan Gwyneth Yaughan. S^OF genyf ddarllen yn un o nofelau Benjamin Disraeli (Iarll Beacons- îf^ field) i ddau gymeriad enwog gyfarfod a'u gilydd yn ngwlad Groeg ; yr oedd un o honynt yn ieuanc a'r llall wedi cyrhaedd canol oed, a llefarai yr ieuanc gyda brwdfrydedd arn y gobeithion a goleddai a'r gwaith a fwriadai gyflawni tuag at ddyrchafu y byd. Gwenai ei gyfaill ac ysgydwai ei ben, " Sh," meddai, " bum innau unwaith yn breuddwydio breuddwydion, meddyliais innau am wneyd y byd yn dda a chysurus, ond gan fod yn well gan y byd fod yn ddrwg ac yn druenus, yr ydwyf wedi penderfynu gadael iddo fod fel y myno.'' Fel pob diwygiwr arall nid oes modd i'r Cwrs osgoi treialon, ond da genyf weled ei fod ar ddechreu blwyddyn neẁydd yn meddu ar holl frwdfrydedd a zeì ieuenctyd, ac yn cerdded yr un llwybrau, yn gloewi ei arfau, yn paratoi yn wir fel milwr i ryfel. Rhwydd hynt iddo! Mae'r gwaith yn fawr a'r gweithwyr difefi yn anamì. Yr wyf yn cytuno o'm calon â'r Cwrs mai " Pwnc y Tir " ddylai fod yn faes rhyfel y blaid Radicalaidd yn y Deyrnas Gyfunol. Hwn yw y diwygiad mawr sydd raid ei gael er mwyn clirio'r ffordd i'r diwygiadau eraill y mae ein henaid yn dyheu am eu gweled. Mae y Gwyddelod druain yn marw o newyn, ie, y maent beunydd yn nychu o eisiau bwyd. Paham ? Am fod eu hynys werdd brydferth yn eiddo tir-feistri nad ydynt byth yn talu ymweliad â'u caethion gwynion ond pan fyddant yn ceisio y rhent. Oh ! y mae fy nghalon yn gwaedu wrth sefyll am ychydig uwch ben dioddefiadau y Gwyddelod twym- galon. Mae bechgyn goreu, mwyaf aiddgar yr Alban yn ymfudo i bell- deroedd y ddaear. Paham ? Ai onid er mwyn i'r tir-feddianwyr gael digon o le i boeni creaduriaid diniwed fel y ceirw a ieir mynydd, &c. Beth am Loegr? Mae ei phobl hithau yn rhuthro i'r dinasoedd wrth y miloedd ac yn marw yn foesol yn gystal a naturiol yn nhrueni yr ym- boeni am fara beunyddiol. Ydyw, y mae disgynyddion anghyfreithlawn ein brenhinoedd (dyna achau mwyafrif ein pendefigion ysywaeth) wedi myned yn faich hyd yn nod ar Loegr ei hun ac y mae yr Ânglo-Saxon