Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. Ehif 5. MAI, 1898. Cyf VIII. MAE Y LANDLORDS YN MARW. ^^|U farw Iarll Cawdor, un o landlords mwyaf Deheudir Cymru, >jp Mawrth diweddaf, yn 80 mlwydd oed. Hana Iarllod Cawdor a Breadalbane, a Duciaid Argyll o lwyth neu gyfî Campbeliaid Ysgotland. Y Duc yw pen y teulu—efe sydd yn cynrychioli y llinell hynaf, a'r Iarllod y canghenau ieuengach. Mae y byd—rhagluniaeth ddynol—wedi gwenu yn rhyfedd arnynt ac wedi rhoddi yn helaeth iddynt ; dywedir eu bod gyda'u gilydd yn gallu lordio ar dros fìliwn o erwau o dir yn Nghymru ac Ysgotland. Yn wyneb y ffaith hon nis gall fod dim yn afresymol i ni ymholi— I. Pa fodd y daeth cymaint o dir i'w meddiant ? II. Pa ddefnydd maent wedi wneud ag ef ? III. A yw i aros yn eu meddiant byd ddiwedd amser ? Ond— 1. Pa fodd y daeth cymaint o dir i feddiant un teulu ? Prin y gallwn heddyw wneud dim ond rhoddi braslun " o'r pa fodd " ; ac nid wyf yn meddwl y gellir cael penod ac adnod ond ar ychydig iawn o'u hetifedd- iaethau. Sicrha traddodiad ni iddynt gael tiriogaethau eang Glenorchy drwy ormes a chleddyf, a gellir profi drwy ddu a gwyn iddynt gael Barwniaeth Lawers yn rhodd gan y brenin. Nid oedd neb, wrth reswm, yr amser hwnw yn amau hawl brenin i roddi tiroedd i'r neb y mynai. Daeth un ran o dair o Farwniaeth Lorne iddynt drwy briodas, ond nid yw hanes y modd y daeth teulu y briodasferch i feddiant o'r tiroedd ond un benod ddu o dwyll, gwaed, a thân. Bu un o'r teulu yn geidwad coedydd y goron, yr hyn oedd yn gynysgaeth ynddo ei hun. Daeth hefyd lawer iawn o diroedd i'r teulu drwy i un o honynt briodi eitifeddes penaeth llwyth (clan) Chattan, a daeth tiroedd Iarll Caithness i gyd iddynt yn nglyn â rhyw drafodaeth arianol, ac yn nglyn â'r drafodaeth hono y gwnawd un o honynt yn Iarll Breadalbane, ac y mae yn perthyn i'r Iarll hwn 179,225 o erwau o dir yn swydd Argyle, a 193,504 yn Perth, am y rhai y mae yn derbyn £50,000 yn fiynyddol, rhywbeth ar gyfartaledd oddeutu £137 y dydd—Sul, gwyl, a gwaith.