Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWRS Y BYD Ehif 5. MAI, 1900. • Cyf. X. TOM PAINE AC IAWNDERAU DYN," (Rights of Man. Gan y Parch. D. Lewis, A.T.S. YsGRIF I. ^Î^AN oeddwn fachgenyn cofus genyf ddarllen yn rhywle y digwydd- *J|f( iad canlynol : Ÿn adeg y cyffro gwleidyddol a gymerodd le yn y wlad hon oherwydd y Chwyldroad Ffrengig, y chwarter olaf o'r ganrif ddiweddaf, cadwai yr enwog Iolo Morganwg siop lyfrau yn Mhont- faen, yn mro deg Morganwg. Yr oedd yr hen Iolo wedi drachtio mor helaeth o ffrydiau grisialaidd ffynonell rhyddid, fel y curai ei galon mewn cydymdeimlad dwfn a phob rhyw ymdrech er sicrhau mwy o ryddid gwladol nag a fwynheid y dwthwn hwnw gan ddeiliaid llywod- raeth Prydain Fawr. Yn y cyfamser, cyhoeddodd Tom Paine ei lyfr galluog ac ardderchog ar Iawnderau Dyn. Creodd y fath lyfr, ar y fath adeg, gynhwrf nid bychan yn mysg holl frenhinolwyr y deyrnas hon fel y gwnaethant ddiofryd y mynent ddifetha y llyfr, a llethu yr awdwr, ac nid digon ganddynt oedd gwneuthur hyny, eithrdarfu iddynt ynfydu yn fwy, fel ag i ymegnio, trwy ddirwyon a charcharau, irwystro pawb, yn mhob man, i ddarllen y llyfr. Hysbys ddigon ydoedd fod yna nifer luosog o bobl oreu y wlad hon mewn llawn gydymdeimlad a syn- iadau Paine yngh}-lch rhyddid ac iawnderau y deiliaid, o nifer y rhai yr oedd Iolo, yr hwn oedd bersonol adnabyddus a Tom Paine, ac yn gwel- ed lygad yn llygad ag ef mewn ystyr wleidyddol. Gwyddai yr awdur- dodau goruchel yn dda am syniadau gwerinol yr hen fardd, ac oherwydd hyny gosodent yspiwyr i'w ddyfal wyiio, er mwyn cael cwyn yn ei er- byn, fel y caffent ef i'w crafangau. Fel y dywedasorn, cadwai Iolo siop lyfrau ar y pryd. Gan wybod fod yr awdurdodau yn ceisio rhyw esgus ì'w gyhuddo dododd yr hen radical cracwrus gyfrol yn ffenestr ei siop, gyda phapur ar ei chlawr yn cynwys y geiriau—" Gwir Iawnderau Dyn." Wel, dyna ef yn y fagl o'r diwedd. Cerddodd y gair ar led fod y llyfr gwenwynig ar werth yn siop Edward Williams. Clybuwyd û}7ny gan yspiwr dros y llywodraeth, ac heb ymgynghori dim a chig a gwaed brysiodd i mewn i'r siop a phwrcasodd y gyfrol yn llawen gan gredu ei fod wedi cael ysglyfaeth lawer. Llwyr gredai ei fod o'r diwedd wedi llwyddo i rwydo y cyfrwys yn ei gyfrwysdra, ac fod ganddo esgus digonol bellach dros gyhuddo Iolo o werthu gwaith chwildroadol, ac mewn canlyniad ei fwrw i garchar fel terfysgwr peryglus. Prynodd y llyfr, a thalodd am dano, ond Och ! ei siomedigaeth, Wedi ei agor