Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. Ehif 12. EHAGFYB, 1900. Cyf. X. AT EIN CEFNOGWYR AR DDECHREU YR XX GANRIF. f^AE "CWES Y BYD" heddyw yn ddeg oed. Mae ei wisg yn _/_* lan, mae yn siarad yn groyw, ac y mae yn meddwl yn glir ar bob pwnc. Ni chafodd hyd yma achos i newid ei farn na galw ei eiriau yn ol am ddim a ddywedodd ar bynciau gwladol na chymdeithasol ; ac er gweled bwganod, ni feddyliodd erioed am redeg. Ni ofynodd erioed, Beth sydd yn debyg o gymeryd g)7da'r bobl ? neu, Beth sydd yn debyg o dalu ? ond gofyna beunydd, Beth sydd bur'? Beth sydd onest ? Beth sydd yn ol gwirionedd ? Trinir llawer o bynciau yn ei golofnau tra yr ä eraiíl o'r tu arall heibio. Ystyria fod amser yn rhy fyr a gwerthfawr i gyhoeddi chwedlau i yru pobl i chwerthin, ond drwy mai ychydig yw rhif y rhai a ddymnnant y deínyddiol, ychydig mewn cymhariaeth yw rhif derbynwyr y Cwbs. Prin y mae yn enill ei fwyd wrth ddyweud y gwir. Aníonasom allan gylchlythyr i ofyn i'w gefnogwyr 'beth i wneud o hono. Mae cynifer o atebion sydd wedi dyfod i law yn ffafriol ac addawol. Ysgrifena un o'r America, " Ni byddaf yn cael cymaint o oleuni yn un o'n papyrau Cymreig ar " y fel y mae y byd ac fel y dylai fod " ag a fyddaf yn gael yn y Cwes ; ei'e yn fy marn i yw un o'r misol- ion gore i'r neb sydd am wybod llawer heb ganddynt ond ychydig o amser i ddarllen. Byddwn yn teimlo gwagder mawr hebddo. Byddaf yn gyfrìfol am wyth rhifyn bob mis tra fyddaf byw, os yn cael ei ddwyn yn mlaen fel y mae yn bresenol." Dywed un y byddai yn gam a'r gan- rif newydd ei adael i farw, a gofyna am 6 yn lle 4. Un yn unig sydd wedi ateb yn anffafriol—ond Methodist yw efe. Gwna y Golygydd ei ore ; mae y Gclicbwyr yn addaw bod yn ff}Tdd- lon ; mae y Dosparthwyr hyd yma yn addaw dyblu diwydrwydd, ac os ceir Derbynwyr hefyd i wneud yr un peth bydd y gwaith wedi ei wneud. Atoch chwi, weithwyr, mae yr apêl hon. ANFONEB YE ARCHEBION I GYD I E. PAN JONES, MOSTYN. tS* Anfonir fel arfer os na chlywir yn wahanol.