Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. Rhif 3. MAWRTH, 1901. Cyf. XI. EIN DIWEDDAR RASUSAF FRENHINES YICTORIA. Îf\ AETÍI y ddynes dda hon i'r byd gofidus hwn Mai 24ain, 1819, J a nos Fawrth, Ionawr 22ain 1901, oddeutu 6.30, hi a aeth y allan o hono wedi tori ei chalon wrth weled fod y Boeriaid cyndyn yn gomedd sefyll i gymeryd eu lladd gan ei chigyddion hi, a hithau o'r henyydd yn colli ei pharch a'i safle yn ngolwg cenedleedd y byd. Pe cawsai hi aros yma ddwy wythnos-ar-bymtheg yn rhagor, hi fuasai wedi bod yma S2 o flynyddoedd. Gwelais hi unwaith yn 1866, a byddaf yn fynych yn teimlo cywilydd wrth goiio y tro ; aros- ais yn y gwlaw fwy nag awr i ddysgwyi am dani yn myned heibio, ond gofelais na chafodd dim o'r fath ddigwydd byth ar ol hyny. Bu farw ei rhagflaenor, y Brenin William IV., brawd i'w thad— dyn, medd yr hanes, oedd lawer yn fwy cymhwys i ganlyn trol mul nag i ysgwyd teyrnwialen—Mehefin 30, 1837, ond Mehefìn 30, 1838, y coronwyd hi; felly, hi a gafodd deyrnasu 63 o flynyddoedd. Ymddengys iddi, yn ystod ei hoes faith, dalu ymweliad a Chymru ddwy waith : y tro cyntaf pan yn eneth fach, 1831, yr oedd yn Eis- teddfod Beaumaris. Hi fu yn gwobrwyo Caledfryn am yr awdl ar y " Rothesay Castle," ac yr oedd y bardd hyd derfyn ei oes yn meddwl Uawer mwy o gael y wobr gan y dywys«ges nag o r wobr ei hun. Bu ar ymweíiad hefyd a Lìandderíel, ychydig flynyddoedd yn ol. Ni bu erioed, hyd y gwn i, ar ymweliad a'r Deheudir. Ni wir- iwyd y ddiareb hono " Os myni glod bydd farw," erioed yn well nag yn hanes y Frenines; nid oedd lawer yn weîl na dynes arall pan yn fyw, ond gellid tybio heddyw na thywynodd yr haul erioed ar ei thebyg, ond swm y cwbl a glywir gan'y wasg a'r cyhoedd yw— 1. Yr oedd ganaldi deulu mawr, plant, wyrion, ac orwyrion, i gyd yn 74 ! ! 2. Hi gafodd fyw i fyned yn hen ! 3. Yr oedd hi yn gyfoethog iawn !