Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. CYF. XII. GORPHENAF, 1901. Rhif 6. ^Anerchiad m- Draddodwyd yn Nghymanfa Dinbych a Fflint, a gyn- aliwyd yn Nghoedpoeth, Meheffn \7eg, 1901. —o— BYDDW'N yn edrych ar y Gymanfa fel math o gareg filldir yn ein hymdaith grefyddol, a iaith pob cymanfa yw ein hod flwyddyn yn nes i ben y daith. Dyma y 32ain cymanfa i mi weled yn y cyfundeb hwn; ac wrth edrych o'm hamgylch heddyw, gallaf ddweyd: " A minaa fy hun a adawyd." Mae rhywbeth yn ddymunol, rhaid addef, yn y teimlad fy mod wedi cael gweled treigliadau 32ain o fîynyddoedd, a chael cyfle i sylwi ar lawer o droion rhyfedd yn nglyn a'r gymanfa; ond y mae rhywbeth prudd yn y syniad fy mod wedi fy ngwthio i'r ymyl. . Cynhaliwyd cymanfaoedd y cyfundeb hwn yn ystod y blynyddoedd hyn m?wn dau-ar-bymtneg o wahanol leoedd. Ünwaith y bu hi yn Llanrwst, Brymbo, Caergwrle, Flint, Mostyn, Rhos, Ponciau, Wrex- ham. Bu ddwywaith yn Abergele, Coedpoeth, Llangollen, Treffyn- on. Bu dair gwaith yn Rhesycac, Rhyl, Rhuthyn, a Wyddgrug. Bu bedair gwaith yn Dinbych. Cadeiriwyd yr holl gymanfaoedd hyn gan bedwar ar ddeg o wahanol bersonau. Bu farw yn y cyfundeb hwn yn ystod yr un amser 21ain o weinid- cgion,—rhai o honynt yn y tresi, a rhai wedi ymneillduo, ond yn byw yn y cyfundeb. Bu mwy o symudiadau yn y cyfundeb hwn, yrì ol rhif yr eglwysi, nag yn un cyfundeb yn Nghymru. Bu yn rhai or eglwysi bump o weinidogion, a'r pump yn fyw yr un amser. Ychydig mewn gwirionedd o weinidogion sefydlog sydd yn y cyfundeb. Gwelsom ym < rai ystormydd geirwon, ond llwyddwyd i rwyfo drwy- ddynt heb golli llong na llwyth, a theimlwn heddyw ein bod mewn dwfr tawel.