Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A U L. Cîîfos ŵrfiirìẁfc yng ngwyneb hatjl a llygad goleuni. "a gair duw yn uchaf." Ehif. 157. IONAWR, 1870. Cyf. 14. ENWOGION YR EGLWYS. DR. THOMAS WILSON, ESGOB SODOR A MAN. Ganwyd Dr. Thomas Wilson yn y flwydd- yn 1663, yn Wirral, Cheshire. Dy.wedir mai "y plentyn yw tad y dyn." Yr oedd Dr. Wilson, pan yn blentyn, yn hynod affi ei addfwynder a'i ddefosiwn. Nid oedd yn teimlo ei hun yn ddedwydd ond pan y byddai gartref: ei brif ofalon oedd am ei rieni. Nid oedd yn hoff o gymdeithas; ei brif bleser oedd myned o'r nei)ldu i ddarllen a gweddîo. Gwnaeth yr argraff- iadau crefyddol a dderbyniodd ym more ei oes barhau hyd ei fedd. Yr oedd yn arferiad yr amser hwnw gan foneddigion siroedd Caerwerydd a Challestr i anfon eu plant i Goleg y Drindod, Dulyn, i'w haddysgu. Wedi i Dr. Wilson dderbyn addysg glasurol mewn ysgolion cym- mydogaethol, symmudodd i Ddulyn. Ei amcan cyntaf oedd astudio physigwriaeth; ond rhoddodd y gangen hon i fyny ar daer ddymuniad yr Archddiacon Hewitson, ac ymunodd â'r ysgol dduwinyddol er parotoi ei hun i'r weinidogaeth. Arosodd yno hyd y fìwyddyn 1686. Yr oedd y cyfnod hwn yn un perygius i ddyn ieuanc heb brofi y byd, ar ba amser y mae llawer dyn ieuanc wedi gwneyd llongddrylliad o'i holl obeithion, trwy roddi ffordd i demp- tasiynau; ond yr oedd yr amser hwn yn cael ei dreulio mewn gweddi gan Wilson, a thyfiantparhäus mewnbywydCristionogol. Yr oedd hyn uwch law pob peth: mae cael bod yn fore dan yr iau, yn ganmil gwell na holl bleserau y Uawr. Ar ddydd gwyl Sant Pedr yn yr un fìwyddyn _(1686),"cafodd Eglwys"Gadeiriol Rildare ei chyssegru. Wedi i'r gwasan- aeth pwysig hwn fyned heibio, aeth Wilson o flaen yr esgob er derbyn urddau sanct- aidd; efe oedd yr unig ymgeisydd. Yr 1—XIV. oedd ei gyfaill, yr Archddiacon Hewitson, yn sefÿll yn ei ymyl. Ni arosodd Wilson yn hir yn yr Iwerddon. Cyn Nadolig, cymmerodd guradiaeth yr Eglwys Newydd, sir Gaerwerydd. Nid oedd ei gyflog ond deg punt ar hugain y flwyddyn! Dywedir yn aml mai am arian yn unig mae yr offeiriaid yn gwein- idogaethu; ond wele atebiad cyflawn i'r cyhuddiad hwn. Yr ydym yn adwaen offeiriaid yng Nghymru a fuont yn gwein- idogaethu am ddeugain punt y flwyddyn. Pan oedd Wilson yn gurad yr Eglwys Newydd, yr oedd yn barhäus dan sylw y dyn mawr hwnw Iarll Derby. Yn y flwyddyn 1692, cafodd ei benodi yn gaplan i'r Iarll, ac yn athraw i'w fab, yr Arglwydd Strange. Yn fuan wedi hyn, yr ŷm yn ei gael yn feistr yr Elusendy yn Latham, yr hyn a ddygodd ugain punt y flwyddyn yn ychwaneg iddo. Yn ei ddyddlyfr am Ddydd y Pasc, yr oedd y nodyn canlynol:—"Gan fod Duw wedi gweled bod yn dda fy mendithio â chyflog ym mhell uwch law fy nysgwyliadau na'm haeddiant, nid wyf hyd yn hyn wedi rhoddi ond un rhan o ddeg o'm cyflog i'r tlodion; ond yr wyf yn bwriadu (ac yr wyf yn diolch i Dduw am roddi yn fy nghalon) i neillduo y pummed ran o'm holl gyflog at achosion duwiol, yn neillduol i'r tlodion." Ymlynodd wrth y penderfyn- iad hwn hyd y diwedd. Pan gafodd ei urddo, gosododd ei wyneb yn erbyn dau beth, sef lluosogrwydd bywoliaethau, ac yn erbyn byw allan o'r plwyf. Gwnaeth adduned ddifrifol na wnelai byth dderbyn dau blwyf i weinidog-- aethu ynddynt; ac y buasai iddo fyw hefyd o fewn ei gylch gweinidogaethol.