Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L. " YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIB DUW YN UCHAF." Rhif. 158. CHWEFROR» 1870. Cyp. 14. ENWOGION YR EGLWYS. YR ARCHESGOB PARKEK. Gall yr Eglwyswr weled llawer o ddaioni yn sel ac hunanymwadiad yr Archesgob Parker yn ei waith yn cario allan ei egwyddorion; ac ar y llaw arall, dichon fod Uawer yn barod i'w gondemnio am ei lymder tuag at y Puritaniaid. Ysgrifen- wyd hanes ei fywyd gan Mr. Sharpe, ei edmygydd, yr hwn sydd yn ffafriol iddo; ond mae yr Esgob Burnett a'r hanesydd Puritanaidd Neal, ar y llaw arall, yn portreiadu ei gymmeriad mewn lliw hollol wahanol. Yng ngwyneb y tystiolaethau gwrthdarawiadol hyn, nid oes dim i'w wneyd ond cadw, fel y cerbydwr hwnw, ar ganol y ffordd. Peth digon hawdd ydyw condemnio dynion pan na allant amddiffyn eu hunain: gwneir hyn yn aml heb i un ymchwiliad gael ei wneyd i'w cymrner- iadau. Os oedd yr Archesgob Parlter yn ymddwyn yn llym tuag at ereill, mae hyn i'w briodoli i wahanol achosion—yr amser oedd ef yn byw, a'i gyssylltiad â'r llys. Y mae yn rhaid addef fod ganddo lawer o anhawsderau ar ei ffordd, am y rhai nid oes genym y meddylddrych lleiaf yn yr oes hon. Yr oedd yn ofynol yr amser hwnw i bob dyn mewn awdurdod fod yn ben- derfynol. Nid oedd y Diwygiad Protes- tanaidd ond yn ei fabandod eto. Yr pedd Mathew Parlcer yn enedigol o Norwich. Cafodd ei eni yn y flwyddyn 1504; ac addysgwyd ef yng Ngholeg Ben- nett, Caergrawnt. Yn y flwyddyn 1527, graddiwyd ef yn Feistr y Celfyddydau; ac yn fuan ar ol hyn, cafodd ei urddo, a'i ethol yn gymmrawd. - Yr oedd ei enwog- rwydd mor fawr, nes tynu sylw Wolsey, yr hwn a gynnygiodd iddo y gadair yn ei goleg newydd yn Rhydychain. Yn y flwyddyn 1533, cafodd ei drwydd- 5—xiv. edu gan Cranmer i bregethu o flaen y llys. Dygodd hyn ef i sylw y brenin, yr hwn a'i penododd ef yn gaplan iddo ef a'r Frenines Ann Boleyn. Ym mhen dwy flynedd ar ol hyn, yr ydym yn ei gael yn Ddeon Coleg Mynachaidd Stoke Clare, Suffolc. Pan oedd yma, yr oedd ei feddwí yn cael ei gyfnewid yn aml o herwydd egwyddorion ac arferion Eglwys Rhuf- ain. Ond ni ddaeth i'r maes hyd deyrnas- iad byr Iorwerth VI. Darfu i'r penadur hwn ei ddyrchafu i Ddeoniaeth Lincoln. Pan esgynodd Mari i'r orsedd, difuddiwyd ef o'r cwbl. Un o'r achwyniadau a ddygwyd yn ei erbyn oedd, iddo briodi gwraig; ond nid oedd ei elyn- ion yn foddlawn ar hyn. Gosodwyd gwaedgwn Mari ar waith i'w erlid: diang- odd i Norffolc, lle y cafodd hamdden i gyfieithu Llyfr y Salmau. Ysgrifenodd hefyd draethawd mewn amddiffyniad i'r offeiriaid briodi, dan yr enw "De Conjugio Sacerdotum" Nid oedd dim mor adgas gan Mari a gweled yr offeiriaid yn priodi. Pan fu y benadures waedlyd hòno farw, cafodd ei adferu; a gallesid meddwl y buasai iddo ad-dalu i'w elynion; canys mae y natur ddynol yn dueddol iawn i ddial: ond canlynodd ef ein Hiachawdwr yn hyn. Pan gafodd ei ddyrchafu i'r archesgob- aeth, gwahoddodd Tonstall a Thirlby, dau o esgobion Mari, y rhai a ddarfu i Elisa- beth droi allan, i Lambeth, lle y buont yn cyfanneddu am hir amser; a phan y bu Thirlby farw, claddwyd ef yn anrhydeddus gan Archesgob Parker. Cynnygiwyd yr archesgobaeth i Worton, deon Caer'gaint, ac i Dr. Whitehead, caplan Anne Boleyn. Gwrthododd un hi o herwydd ei fod yn