Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

H A U L. €xfm torftj#in. YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DÜW YN UCHAP." Rhif. 161. MAI, 1870. Cyf, 14. GWRAIG LOT. Mae yr amgylchiadau yn y rhai y mae hanes gwraig Lot yn cael ei thraethu, ym mhlith yr amgylchiadau mwyaf brawychus a thrychinebus a gofrestrir mewn hanes- yddiaeth, sef distryw amryw o ddinasoedd cyfain ar unwaith gan farnedigaethau digllawn yr Hollalluog. Ae er niwyn i ni ddeall yn well beth oedd natur ymddygiad gwraig Lot ar yr achlysur, ac hefyd ei chospedigaeth ddi- symmwth ac ofnadwy, buddiol fydd i ni olrhain ychydig ar yr hanes. Yr oedd Lot, nai Abraham fab ei frawd, wedi dewis yr ardal hon i drigo ynddi, Ile vr oedd y dinasoeddd drygionus hyn; ond nid oes ammheuaeth na edifarhaodd efe lawer gwaith am ei ddewisiad bydol a hunanol; canys mae Sant Pedr yn dy- wedyd, yn ei ail epistol, "ei fod mewn gofid o herwydd anniwair ymarweddiad yr anwiriaid; canys y cyfiawn hwnw yn trigo yn eu mysg hwynt, yn gweled ac yn clywed, ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd trwy eu hanghyfreithlawn weithredoedd hwy." Dyna dystiolaeth yr apostol. Nid ydym yn gwybod pwy oedd gwraig Lot; ond y tebygolrwydd yw ei bod hi yn un o ferched Sodom neu Gomorrah. Os felly, yr oedd Lot wedi ymfaglu yn y lle drygionus hwnw trwy ieuo yn anghy- mharus; ac yr oedd rhai o'i ferched ef wedi priodi dynion o'r un lle. Oedd, yr oedd Lot wedi ymfaglu yn yr ardal an- nuwiol a ddewisasai efe. Nid- bob amser y mae'r hyn a ddewisom ac a ddymunom yn troi allan ynfendith i ni; yn y gwrth- wyneb, mae weithiau yn troi allan i ni yn fagl, yn dramgwydd, yn brofedigaeth, ac yn felltith. Bydded ein dewisiadau bob amser yn unol ag ewyllys yr Arglwydd,.ac nid yn tarddu oddi ar hunanoldeb; ac yna, 17—XIV. os cawn eu mwynhau, bydd boddlonrwydd a bendith y Llywodraethwr mawr ar ein meddiant o honynt. Yr oedd pechodau Sodom a Gomorrah mor ddirfawr, fel y cyrhaeddodd eu gwaedd hwynt i'r nefoedd; ac yr oedd Duw, er cymmaint ei amynedd, wedi penderfynu dinystrio'r fangre. Ond gwelwn mor hir- ymaröus ydyw Efe tuag at annuwiolion, ac mor anewyllysgar i daro! Nid oedd yn ewyllysio tywallt arnynt y dinystr dial- eddol yn ddisymmwth; ac yr oedd megys yn drwg dybio ei hollwybodaeth ei Hun ar y mater; Efe a.ddisgynodd, mewn rhith angel. i'r ardal, fel y gallai weled megys â'i lygaid ei Hun, ai yn ol eu gwaedd a ddaethai ato i'r nefoedd y gwnaethent yn hollol ai peidio. Ac Efe a ddaeth at ei gyfaill Abraham i hysbysu iddo ei neges. Àr ol ymddyddan ag Abraham, ac aros, Efe a dau angel arall, gydag Ef yn araf- aidd am ryw ennyd o amser, fel yn an- ewyllysgar i ddistrywio'r dinasoedd, Efe a aeth o'r diwedd i Sodom, ac a lettyodd yno yn nhy Lot. Ac ymddygodd y Sodom- iaid mor ddrygionus ac; ysgeler tuag ato ef a'i gyd-angylion, a thuag at Lot a'i dy, nes yr oedd yn ddigon amlwg bod cwpan eu hannuwioldeb hwynt wedi llenwi hyd at yr ymyl, ac nad oedd dim modd eu hai-bed un diwrnod yn hwy. Yna dywedodd yr angylion wrth Lot, "A oes genyt ti yma neb eto? mab yng nghyfraith, a'th feibion, a'th ferched, a'r hyn oll sydd i ti yn y ddinas, a ddygi di allan o'r fangre hon; o blegid ni a ddinystr- iwn y lle hwn, am fod eu gwaedd hwynt yn fawr ger bron yr Arglwydd." Ýna aeth Lot ar unwaith i dai ei feibion yng nghyfraith, ac a draethodd iddynt fygyth- iad yr angel. Ond yn lle rhoi gwran- dawiad iddo, meddyliodd ei feibion yng