Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A. ü I Crçfra (íajfrffrìẁfu. YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhip. 162. MEHEFIN, 1870. Cyp. 14. TAEBINEB MEWN GWEDDI. ( Y Syropheniciad.) Anfynych y byddai ein Harglwydd yn myned dros derfynau Gwlad Canaan. Ond yr ydym yn ei gael unwaith tu tawnt i'r terfyn yn nhueddau Tyrus a Sidon, ar gyffiniau tirioga2th llwýth Áser. Ac fe ddaeth gwraig ato, ag ydoedd yn hiiiog- aeth un o'r hen Ganaaneaid gynt yn 7 parthau hyny, ac a lefodd arno, "Trugarhâ wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd; y mae fy merch yn ddrwgei hwyl gan gythraul." Ònd nid atebodd yr Iesu iddi gymmaint ag un gair. Onid yw hyn yn syndod dirfawr, fod yr Iesu tosturiol yn gwrthod gẃrando ar lef y cystuddiedig? Ac onid y w ei ddysgybl- ion yn fwy calon-dyner nag Efe? canys daethanthwy ato, ac a ddywedasant wrtho, "Gollwng hi ymaith; canys y mae hi yn llefain ar ein hol." Edrychwn am fynyd ar yr olygfa ryfeddol, nad oes mo'i chy- ífelyb yn yr Ysgrythyrau. Yr oedd yr Iesu a'i ddysgyblion yn cerdded ar y pryd, ar eu taith yn brysur i ryw dref neu bentref yn y gymmydogaeth. Gwelodd y wraig hon Ef, adywedodd ei chwyn wrtho; ond ni chymmerodd yr Iesu mo'r syiw lleiaf o honi hi na'i chwyn, ac ni ddarf'u iddo hyd yn oed arafu diin ar ei gamrau, ond myned yn ei flaen gyda'i ddysgyblion. Ond ni a welwn y wraig, yn lle cymmeryd ei digaloni, yn eu dilyn hwynt o'r tu ol, gan lefain a gwaeddi am drugaredd i'w merch orphwyllog. A dyma'r dysgyblion yn erfyn arno ei gollwng hi ymaith trwy ddywedyd rhywbeth wrthi, a rhoi iddi ryw atebiad, gan ei bod hi yn llefain ac yn bloeddio ar eu hol. Ond ef allai mai nid o dosturi yr oedd y dysgyblion yn tynu sylw'r Iesu at hyn; tebycach yw eu bod yn dymuno cael 21—XIV. llonydd ganddi; canys • yr oeddynt yn teimlo mai nid peth urddasol a pharchus tuag at eu Hathraw dwyfol oedd fod gwraig ddyeithr fel hyn yn bloeddio dros bob man ar ei ol Ef. Dan y teimlad hwn y ceryddodd y dyrfa y dyn dall yn ymyl lericho am lefain arno; ond gwaeddodd y dyn dall yn fwy o lawer arno, "Iesu. Fab Dafydd, trugarhâ wrthyf." Yr oedd y wraig hon yn lled debyg i'r dyn dall yn hyn: yr oedd hi yn dal i floeddio ar yr lesu yn ddi^ywilydd ac yn ddiarswyd. Nert/t oedd hi yn ei gael yn ddirgel oddi wrth yr lesu ei hun i fod mor daer; ac ni a gawn weled y llwydda'r taerineb di- gywilydd hwn yn y diwedd. Mae esampl debyg i hon yn nammeg y dyn a ddaeth ganol nos at ddrws ty cyfaill i ofyn iddo am dair torth yn eehwyn. Gwnaeth y cyfaill b(jb esgus i'w droi ef heibio; yr oedd efe yn y gwely, a'r plant gydag ef, ac nis gallai gyíbdi a rhoi'r torthau i'r dyn. Ond dal i erfyn yr oedd y dyn, er pob esgus. Ac o'r diwedd, er na chodai'r llall o'i wely i roi'r torthau iddo am ei fod yn oyfaill iddo, eto o herwydd tae.rnir dyn, efe o'r diwedd a gododd ac a'u rhoddodd. "O herwydd ei daerni" yw ein cyfieithad ni; ond ystyr llythyrenol y geiriau yn yr iaith wreiddiol yw "o herwydd ei ddigywilydd-dra." Fe lwydd- odd digywilydd-dra taer y dyn hwnw; ac ni a gawn weled y llwydda digy wilydd-dra taer y wraig hon. Nid oes dim yn boddio Duw yn fwy yn ein gweddîau na bod yn daer ac yn ddi- ildio. Beth oedd, i ymddangosiad rheswm dyn, yn beth mwy digywilydd na gwaith Iacob yn ymdrechu ac yn ymgodymu â'r angel ya Fenuel, ac ymgudyuiu mor galed,