Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R HAÜL " YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLBUNI. "A GAIR I/UW YN UCHAF." Rhif. 164. AWST, 1870. Cyf. 14. ENWOGION YR EGLWYS. WILLIAM TYNDAL Ym mhlith ereill a fuont feirw dros eu gwlad ac achos Crist, nid llawer sydd yn sefyll yn uwch na William Tyndal, cyf- ieithydd y Testament Newydd. Yr oedd Tyndal yn un o ddisgynyddion Barwniaid Tynedale, Northamptonshire; a chafodd ei eni yn North Nibley, sir Gaerloew, tua'r flwyddyn 1484. Yr oedd ef yn ieuengach na'i gydoeswr Luther. Fel y dyn mawr hwnw, bu yn foddion i'w gydwladwyr i gael darllen yn eu hiaith eu hunain y gweithredoedd mawrion a gyf- lawnodd ein Hiachawdwr ar y ddaiar. Cyhoeddodd ei gyfieithad o'r Testament "Newydd pan oedd Testament Luther yn yr Ellmynaeg yn cynhyrfu ofnau a tharan- au y Babaeth. Gellir meddwl fod y ddau ddiwygiwr wedi cyfarfod â'u gilydd er ffurfio cynlluniau i ddwyn o amgylch yr hyn oedd yn anwyl ganddynt; ond nid oes dim hanes iddynt weled eu gilydd erioed, ac na fu un gohebiaeth rhyngddynt ychwaith. Dygodd y ddau eu gweithiau allan yr un amser, heb un math o gy tundeb yro mlaen llaw. Y mae hyn yn profi fod rhywbeth uwch na theimlad personol wedi eu cynhyrfu. | Nid oes dim hanes i'w gael am ddyddiau boreuol Tyndal; ond y mae yn amlwg, oddi wrth y dylanwad oedd'ef wedi gael ar fyfyrwyr Magdalen Hall, Rhydychain, ei fod er yn fachgen yn adnabyddus â'r Ysgrythyrau. Yr oedd Uaw ddoeth Rhag- luniaeth yn ei dy wys ac yn ffurfio y llwybr ar hyd yr hwn yr oedd ef i gerdded. Yr achos a berodd iddo sefyll i fyny yn erbyn Pabyddiaeth, y mae yn amlwg, oedd anfoesoldeb yr offeiriaid pabaidd, segurdod a gwastraff y mynachlogydd, yng nghyd â'r prisiau uchel oedd yn cael eu talu am 29—XIV. bob bendith y sbrydol—bedydd, gollyngdod, a chladdedigaethau. Yn ei waith, Ufudd- dod y Dyn Cristionogol, yr hwn a gyhoedd- wyd yn 1528, y mae'yn siarad am ei adgofion boreuol: ymosoda yn llym ar lygredigaethau yr Eglwys Babaidd. Ail- adrodda rhai o'r dywediadau a glywodd pan oedd yn ieuano. Pan oedd pethau yn methu lìwyddo, yr oedd yn arferiad i ddywedyd "fod yr esgob wedi ei fendithio;" canys nid oedd dim yn llwyddo wedi iddynt hwy ymyraeth ag ef. Pan oedd y cawl yn llosgi ar y tân, neu y cig yn llosgi wrth ei rostio, dywedid fod yr esgob wedi rhoddi ei droed yn y crochan, neu ei fod wedi bod yn cogino. Y mae yn gwneyd cyfeiriadau aml at ddull teuluol yr offeiriaid o fy w, &c. Dywed bod yr offeiriaid pabaidd yn cadw y gwirionedd oddi wrth y bobl; yr oeddynt yn bedyddio yn Lladin, bendithio yn Lladin, ac yn rhoddi gollyngdod yn Lladin. Yr unig beth oeddynt yn wneyd yn Seis- oneg oedd meUtithio. Dy wedir i'w melltith- ion wneyd argraff ddwys ar feddwl Tyndal; a bernir mai hyn oedd yr achos iddo lafurio ddydd a nos i gyfieithu yr Ysgrythyrau. Dywedodd unwaith, os buasai i Dduw roddi bywyd a nerth iddo, y buasai iddo wneyd i'r bachgen oedd yn canlyn yr aradr wybod mwy am yr Ysgrythyrau na wyddai y Pab. Yr oedd am i'r Seison wybod mai Duw yw Tad y goleuni, ac nad oedd dim tywyllwch yn perthyn iddo Ef; a bod Crist wedi rhoddi gorchymmyn i'w ganlynwyr Jen- dithio, ac nid melltithio. Gwelodd Tyndai fod y geaadwri a'r gorchymmynion a anfonwyd i'r byd wedi cael eu gwyro a'u camddefnyddio, a'u bod wedi cael eu defnyddio i ormesu a dy- chrynu y bobl.