Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR H A UL tíîffra ẅrfyrìẁk "YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLBUNI." "A GAIB DUW YN UCHAP." Rhif. 166. HYDREF, 1870. Cyf. 14. ENWOGION YE EGLWYS. DR. SCORESBY. Yr oedd William Scoresby yn drydydd mab i William Scoresby, cadben llong o Whitby, sir Gaerefrog, a Mari ei wraig, merch John Smith, boneddwr o Cropton. Ganwyd ef ar y pummed o fis Hydreí', 1789, yn Whitby. Pan yn ieuanc, yr oedd ei gyfansoddiad yn wanaidd: yr oedd yn hollol analluog i ddilyn yr un alwedig- aeth a'i dad. Yr oedd yr ysgolfeistriaid yr amser hwnw yn arfer ceryddu eu hysgolheigion gyda llymder anarferol: nid oeddynt hwy yn arbed y wialen, pan y byddai galw am hyny. Achwynir yn aml gan rai nad yw y wialen yn cael ei defnyddio yn awr mor aml ag y dylai. Yr oedd yr athraw, dan ofal yr hwn yr oedd Scoresby, yn lled lym. Pan oedd llong ei dad yn myned allan i bysgota morfilod, ymguddiodd yn y llong, nes oedd allan ar y môr: hon oedd ei for- daith gyntaf. Wedi iddo ddychwelyd, cafodd ei anfon i'r ysgol, lle y bu nes oedd yn un ar bymtheg mlwydd oed. Nid oedd ei dad yn foddlawn iddo fyned i'r môr, byd nes y buasai yn alluog i ysgrifenu yn dda, ac yn feistr ar rifyddiaeth a gramadeg. Nid oedd yn gwybod dim yr amser yma am lenyddiaeth glasurol. Yn y flwyddyn 1806, yr ydym yn ei gael yn brif swyddog yn llong ei dad, y Resolution. Cydsyniodd ei dad iddo wneyd ymdrech i fyned ger llaw y Pegwn Gog- leddol, er mwyn cael allan pa un a oedd un agoriad yno. Aethant o fewn 510 milltir i'r Pegwn Gogleddol; abuasaiiddyntfyned ym mhellach oni buasai yr hin; yr oedd y môr yn dechreu rhewi o'u cwmpas. Aeth y Resolution ym mhellach nag un long iiaenorol. Aeth y Cadben Parry 80 milltir ym mhellach ar yr ia. 37—XIV. Yr hydref a'r gauaf canlynol, aeth i Brifysgol Edinbwrg; rhanodd ei astud- iaeth rhwng gwahanol gangenau. Ym mis Mawrth, aeth allan i bysgota morfilod. Y tro hwn ysgrifenodd ei draethawd ar Coast Surveying. Ym mis Medi, aeth ar fordaith i Copenhagen, er cael y llynges Ddanaidd yn ol. Yn ystod y fordaith hou, daeth i adnabyddiaeth â rhaglaw blaenaf y Texel, Mr. Gowrley, dyn crefyddol, a dyn da ym mhob ystyr o'r gair: gwnaeth esamplau da y dyn hwnw argrafnadau dwys arno. O'r amser yma hyd y flwydd- yn 1824, canlynodd ei hen alwedigaeth, sef pysgota morfilod. Treuliodd un gauaf yn Edinbwrg. Yn 1811, ymunodd mewn priodas â Mary Eliza, merch Mr. Lockwood, masnachydd, yr hwn oedd yn Ymneilldüwr. Yn 1812, ganwyd ei fab cyntafanedig Wiíliam. Yr amser hwnw yr oedd ei dad, ei dad cu, a'i hen dad cu, yn fyw. Yn 1818, ganwyd ei ail fab Fredericlc; ond bu y ddau f'arw yn ieuanc; a bu Dr. Scoresby farw yn ddi- blant. Bu farw ei wraig yn 1822, pan oedd ef yn absennol ar ei fordaith. Treuliodd y gauaf canlynol i drefnu ei nodiadau ar y darganfyddiadau oedd ef wedi wneyd; ac ysgrifenodd lyfr gweddi at wasanaeth y morwyr. Yr oedd wedi cael ar ddeall fod Gwasanaeth y Llyfr Gweddi yn rhy faith i ateb yr amgylcliiad- au; ond dywed ei fod fel ffurf o wasanaeth, yn ddiguro. Yn ei ragymadrodd, dy wed ei fod yn hollol ymwybyddus fod ei ychwan- egiadau at y Liturgy ym mhell is law i'r un gwreiddiol. Yr oedd yn hyderu nad oedd wedi rhyfygu wrth wneyd hyn. Hwn oedd y gwaith crefyddol cyntaf a ysgrif- enodd; ac mae yn debyg mai hyn fu yn