Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

R HAUL. <§y$m êmfnrââm. "yng ngwyneb haul a llygad goleüni." "a gair duw yn uchae." Rhif. 171. MAWRTH, 1871. Cyf. 15. ENWOGION YR EGLWYS. DR. ISAAC BARROW. Yr oedd Dr. Isaac Barrow yn fab i siopwr, yr hwn oedd yn byw yn Llundain, lle y ganwyd ef. Cafodd ei addysgu yng Nghaergrawnt ar gyfer y weinidogaeth; ond yr oedd yn ormod o deyrngarwr i foddloni y gallu oedd mewn awdurdod ar y pryd; cyfnewidiodd ei feddwl; penderfyn- odd astudio physigwriaeth. Yn 1652, teithiodd dros gyfandir Ewrop, ac ymwelodd â Chaergystenyn a Smyrna. Yn 1660, cafodd ei benodi yn Greeh Professor yng Nghaergrawnt; ac yn 1662 yn Pro- fessor of Geometry yn Greshara. Yn y fi. 1663, rhoddodd y ddwy i fyny, pan gafodd ei benodi yn Brofessor Mathematics ym Mhrifysgol Caer- grawnt. Cafodd y broffeswriaeth hon ei sefydlu gan Henry Lucas, yr hwn oedd wedi cael ei addysgu yng Ngholeg Sant Ioan, yr hwn hefyd a gynnrychiolodd y Brifysgol ddwy waith yn y Senedd. Cyn ei amser ef, nid oedd llawer o sylw yn cael ei dalu i mathematics yngNghaergrawnt; ond wedi hyn daeth yn ogoniant y Brifysgol. Y proffeswr cyntaf oedd Isaac Barrow, yr hwn a lanwodd y gadair yn anrhydeddus: llanwodd y swydd am chwech mlynedd, pryd y 11—XV. rhoddodd hi i fyny i'w gyfaill New- ton. Penderfynodd Barrow astudio duwinyddiaeth o hyn allan. Yn 1670, graddiwyd ef yn Ddoethor mewn Duwinyddiaeth; ac ym mhen dwy flynedd cafodd ei benodi yn brifathraw Coleg y Drindod, gan Siarl yr Ail, yr hwn a ddywedodd ar yr achlysur ei fod wedi penodi yr ys- golhaig goreu yn Lloegr. Cafodd Barrow ei benodi yn un o'r caplan- iaid breninol. Yr oedd y brenin yn arfer dywedyd mai Barrow oedd y pregethwr mwyaf annheg a glywodd erioed, o blegid ei fod yn arfer dy- hyspyddu ei destyn, fel nas gallasai neb arall ddywedyd dim ar ei ol. Yr oedd ei bregethau yn eglur, ac yn hawdd eu deall. Y mae Dugdale Stewart yn ei ddj'sgrifío fel un o brif oleuadau cyfnod yr Adferiad fel pre- gethwr ac fel awdwr. Nid oedd ei ysgrifbin un amser yn segur, fel y profa ei weithiau. Bu farw pan oedd yn 47 oed, Y mae i'w weled arlun o hono ef yp, Westminster Abbey, yn agos i gongl y bardd. Dywed Stewart ei fod yn arfer ysgrifenu ei l)regethau dair gwaith cyn eu traddodi.