Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L. TNG NGWTNEB HAUL A LLTGAD GOLEUNI. "A GAIR DUW YN UCHAP." RHIF. 173. MAI, 1871. Ctf. 15. CYFRIFIAD Y BOBL. Mae cyfrifiad y bobl ya waith ag y mae genym esamplau boreuol iawn o hono. Yn y bennod gyntaf a'r ail o Lyfr Numeri, mae yr Israeliaid yn cael eu cyfrif wrth orchymmyn ac o dan gyfarwyddyd y Goruchaf ei Hun. Cymmerodd hyn le yn y flwyddyn 1490 cyn Crist. Ac yn niwedd Ail Lyfr Samuel yr ydym yn cael Dafydd Frenin yn cyfrif ei ddeiliaid. Önd yr oedd hyn ynddo ef yn waith afreidiol a rhy- fÿgus, yn tarddu ond odid oddi ar syniadau balch. Ceryddodd Toab Dafydd am y gwaith, a chospodd Duw ef a'r boblogaeth gyda llym- dostedd. Rhoddodd hanesyddiaeth bagan- aidd i ni y gair (census) ag sydd hyd heddyw mewn arferiad. Cymmerodd y census cyntaf yn Rhufaìn le yn y flwyddyn 566 cyn Crist: yr oedd Rhufain y pryd hwnw yn cynnwys 84,700 o ddinasyddion. Ar ol y fiwyddyn 432 cyn-Crist, gwneid y cyfrifiad yn y Gampus Martius (Maes Mawrth) yno bob tua phum mlynedd, a hyny gyda dau brif ddyben, sef dyben milwrol a dyben treihiadol. Ond ar ol amser yr Ymherawdwr Titus Vespasiau, rhoed i fyny gyfrif y bobl gyda'r dybenion a grybwyll- wyd, er y byddai nifer poblogaeth yr 21—xv. ymherodraeth yn cael ei gymmeryd yn achlysurol ar ol hyny. Ar achlysur un census Rhufeinig, fe gymmerodd genedigaeth ein Har- glwydd le yn Bethlehem. "Bu yn y dyddiau hyny fyned gorchymmyn allan oddi wrth Augustus Cesar i drethu yr holl fyd;" hyny yw, i wneyd census o'r holl ymherodraeth Rufeinig, gyda golwg ar drethiad; ac fe wnaed y trethiad ei hun yn ol y census hwnw, pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria.—Luc ii. 1, 2. A chan fod yn ofynol cymmeryd census pawb yn ei ddinas ei hun (dinas ei hynafiaid), gorfu ar Ioseph fyned o Galilea i Bethlehem i'r perwyl, sef dinas Dafydd; o dy a thylwyth Dafydd yr oedd Ioseph. Aeth Mair gydag ef; a phan yn Bethlehem, hi a esgorodd yno, mewn ystabl, ,ar ei mab Iesu. Nid oedd iddynt le yn y lletty, am fod y dref fechan yn orlawn o ddyeithriaid wedi dyfod yno, fel hwythau, i'r census. Diau y byddid yn cymmeryd nifer poblogaeth Prydain pan oedd hi yn dalaeth Rufeinig. Ac yr oedd gan y Normaniaid hwythau drefn i gym- meryd cyfrif o nifer y deiliaid o amser Gwilym Goncwerwr ac isod. Ond hyd yn ddiweddar, a siarad yn gymhariaethol, ni byddai dim census