Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR H A U L. %fm djtoferjîdttt. "YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DÜW YN UCHAP." Rhif. 174. MEHEFIN, 1871. Cyf. 15. Y WAWR WEDI YMWASGARU AR Y MYNYDDOEDD. Mae yr ymadrodd rhyfeddol uchod i'w weled yn yr ail bennod o lyfr y Prophwyd Toel, a'r ail adnod. Wrth son am ddyfodiad dydd barnedig- aethau Duw ar yr Israeliaid am eu pechodau, dydd y sychder poeth a'r newyn dybryd, dydd y locustiaid byddinog ac ysfaol, mae yn dywedyd, " Diwrnod tywyll du, diwrnod cym- mylog a niwlog, fel y wawr wedi ymwasgaru ar y mynyddoedd." Ystyr lythyrenol y gyffelybiaeth hon yw, fod dydd barnedigaethau yr Hollalluog yn dywyll fel y cynddydd, pan y mae'r wawr yn dechreu argraffu ei llewyrch gwan yma ac acw ar benau y mynyddoedd uchaf, cyn ymledu ac ymdaenu, a chynnyddu ar hyd wyneb y wlad. Mae cynnydd goleuni crefydd yn myned rhagddo o radd i radd, fel ag y mae'r wawr naturiol yn cynnyddu hyd y canolddydd. Mae'r haul ysbrydol yn ymddyrchafu yn raddol uwch y nefoedd, nes o'r diwedd y mae ei ogoniant ar yr holl ddaiar. Hwyrach na byddai ddim yu an- nyddorol nac yn anfuddiol olrhain y cynnydd ysbrydol hwn mewn rhai pethau, fel ag y mae'r wawr yn gyntaf yn ymwasgaru ar y mynyddoedd, ac wedi hyny yn dyfod o'r diwedd yn ganolddydd llewyrchus. 26—xv. Ond mae yn gyntaf peth yn angen- rheidiol esbonio ar fyr eiriau pa beth yw ystyr llythyrenol y meddylddrych fod y wawr yn ymwasgaru ar y myn- yddoedd. Mewn pob gwlad fynyddig, fel gwlad Canaan, yn yr hon yr oedd y Prophwyd loel yn ysgrifenu, penau y mynyddoedd sy gyntaf yn derbyn llewyrch y wawr. Ac wrth fod y wawr fel hyn yn lledaenu ei llewyrch eiddil ar benau uchaf y mynyddoedd, mae yr olygfa a'r ymddangosiad (phenomenom) o draw yn edrych yn debyg i fel pe byddaì'r wawr wedi ymwasgaru yn wahanol glytiau, peth o'i llewyrch hi ar y mynydd hwn, a pheth o'i llewyrch ar y mynydd arall. Yn yr achos hwn, y mae llewyrch y wawr ar yr ardal fryniog yn ymddaugos nid yn gyfau, ond yn wasgaredig. Ond o ychydig i ychydig, mae ystlysau isaf y mynyddoedd yn derbyn y llewyrch cryfhaol, yr hwn sydd o'r diwedd yn cyrhaeddyd y gwaelodion. A gellir dywedyd yr un peth yn gymhwys am dywyniad goleuni yr haul. Pan fo yr haul yn codi, penau uchaf y mynyddoedd sy gyntaf yn derbyn ei dywyniad: ac y mae tywyn- iad yr haul (fel llewyrch y wawr) yn ymddangos yn wasgarol, yn goreuro