Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L. YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DUW YN UCHAF," Rhîp. 175. GORPHENAF, 1871. Cyp. 15. Y GWR IEUANC GOLUDOG. St. Matthew xix. Yb oedd ein Hiachawdwr newydd roi ei ddwylaw ar y plant bychain a ddygasid ato, gan eu bendithio, a dy wedyd mai eiddo y cyfry w rai oedd teyrnas nefoedd. Yr oedd hon yn weitbred mor serchog ar ran ein Harglwydd, fel ag y cynhyrfwyd teimladau tyneraf gwr ieuanc ag oedd yn ddiau yn y fan a'r lle yn gweled ac yn clywed, fel y meddiannwyd yntau â dymuniad i gael teyrnas 'nefoedd. Efe a ddaeth at yr Iesu, ac a ofynodd iddo, "Athraw da, pa beth a wnaf fel y caffwyf fywyd tragwyddol ?" Yr oedd yn beth mawr ac anghy- ffredin gweled gwr ieuanc, a hwnw yn gyfoethog, yn troi ei feddwl at grefydd a mater enaid. Ond eto dymuniad gwanllyd a diafael oedd dymuniad y gwr ieuanc hwn am fywyd tragwyddol, ac nid dymuniad difrifol a phenderfynol. Yr un fath yn gymhwys yw dy- muniadau llawer o bobl yn ein gwlad a'n hoes ninnau am gael myned i'r nefoedd. Clywsom lawer yn son eu bod yn dymuno myned i fyw i ryw wlad bell—America neu Awstralia, neu i deithio yng ngwlad Canaan-— ac eto nid oes y dymuniad ynddynt ond dymuniad sẅrth a dioglyd; o 31—xv. herwydd nid oeddynt yn gwneuthur dim ymdrech i fyned. Ac yn y dull dioglyd, swrth, a diymdrech hwn y mae llawer yn dymuno myned i'r nefoeddj nid ydynt yn ymegn'io i fyned yno. Mor wahanol i hyn yw dymuniad y dyn duwiol am fyned i wynfyd y nef. Mae efe megys yn dywedyd ynddo ei hun, " Mi a fynaf fyned yno. Rhaid i mi gael myned yno. Ni chaiff neb na dim fy rhwystro. Mi a gipiaf deyrnas nefoedd, ac a'i cymmeraf hi trwy drais." Tebyg i hyn ydyw iaith calon pob dyn a argyhoeddwyd o ddrwg pechod, o werth enaid, ac o brydferthwch sanct- eiddrwydd. Nid oes neb (mewn oetìran) yn cael myned i'r nef ond y rhai sydd yn rhoi holl feddylfryd eu calon ar hyny, yn ymdrechu myned i mewn trwy'r porth cyfyng, ac yn gweithio allan eu hiachawdwriaeth eu hunain mewn ofn a dychryn. Ni a gawn weled, ysywaeth! mai nid un felly oedd y gwr ieuanc sy yn awr dan sylw. Ynddo ef nid oedd y dymuniad am fywyd tragwyddol yn ddim ond sentiment; dim ond matter of taste, ac nid mater bywyd. Atebiad yr Iesu iddo oedd, "Os ewyllysi fyned i mewn i'r bywyd,