Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L TNG NGWTNEB HAUL A LLTGAD GOLEÜNI. "A GAIR DUW TN UCHAF." EHIF. 176. AWST, 1871. Ctf. 15. SALM Y BRENIN HESECIAH. ESAI XXXVIII. Yb oedd hi wedi bod yn gythrwfl cynhyrfus ar feddwl y brenin duwiol hwn. Yr oedd Sennacherib, brenin Assyria, wedi goresgyn holl ddinas- oedä caerog Iwdah, ac yn bygwth gwneuthur ymosodiad ar y brifddinas, Ierwsalem. Yr oedd efe wedi anfon ei gadfridog Rabsaceh i warthruddo Heseci'ah, ac i gablu Duw Hesecîah. Ac y mae Hesecîah ar hyn yn anfon yn ei gyfyngder am y Prophwyd Esai i weddio drosto ef a'i bobl. Ond yn lle dyfod i ymosod ar y ddinas sanctaidd, yn ol ei fygythiad trwy eneu Rabsaceh, gorfu ar Sen- nacherib droi yn sydyn i ymladd yn erbyn Tirhacah, brenin Ethiopia. Ond yn y cyfamser efe a anfonodd genadau i ddwyn llythyrau oddi wrtho at Hesecîah, yn cynnwys ymadroddion mwy bygythiol a gwawdus fyth nag a gynnwysid yn ymadroddion cabl- aidd Rabsaceh. Cymmerodd yntau y llythyrau rhyfygus hyn, ac a'u lledodd ger bron yr Arglwydd yn y deml, gan wedd'io arno, a chyflwyno ei achos i'w law hollalluog Ef. Yn ebrwydd ar ol hyn, fe darawodd angel yr Arglwydd yng ngwersyll Sennacherib gant a phedwar ugain a phump o filoedd o filwyr yr Assyriaid yn gelaneddau meirwon. Ni ddy- 36—xv. wedir i ni pa un ai yng ngwlad Israel y lladdwyd hwynt, ai yn yr hynt yn erbyn Tirhacah. Ond fe fu'r dinystr dialeddol hwn ar fyddinoedd Sen- nacherib yn ddigon effeithiol i beri iddo ddianc, yng nghyd â gweddill ei luoedd, i Ninifeh, lle y lladdwyd ef ar fyrder gan ddau o'i feibion ei hun pan oedd efe yn addoli yn nheml Nisroch ei eilun-dduw. Yr oedd y pethau hyn, y naill yn dilyn y llall, y cyfyngder, y perygl, a'r waredigaeth, yn ormod i gyfan- soddiad corff a meddwl y brenin duwiol eu dal: canys yn y dyddiau hyny efe a glafychodd hyd farw. A gwaeth fyth, fe anfonodd yr Arglwydd ato, trwy law Esai y prophwyd, gen- adwri dost, yn erchi iddo drefnu ei dy, canys y byddai farw, ac na byddai byw. Yn lle cnoi'r wialen, fe droes y brenin ei wyneb ar y pared, ac a dywalltodd ei enaid ger bron yr Arglwydd mewn gweddi ac ymbil. Gwrandawodd Duw ei weddi, a gwel- odd ei ddagrau, a rhoes iddo bymtheg mlynedd o estyniad einioes. Ar ol i Hesecîah welläu o'i glefyd, efe a gyfansoddodd salm ardderchog, yn dangos beth oedd ei deimladau yn ei glefyd, a pha beth oeddynt ar ol cael o hono adferiad. Fe wneir