Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L. YNG NGWYNEB HAÜL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DUW YN UCHAP." Rhip. 178. HYDREF, 1871. Cyp. 15. Y DDAU BREN. Mae y Gwr Doeth yn dywedyd yn Llyfr y Pregethwr fod Duw wedi gwneuthur y naill beth ar gyfer y llall. Ac yr ydym yn gweled per- ffeithrwydd pob peth yn well ac yn rhagorach wrth edrych a myfyrio arnynt niewn gwrthgyferbyniad â'u gilydd. Nid oes dim yn holl gylch gweithrediadau natur wedi ei wneyd ar ei ben ei hun, ond pob peth mewn cyssylltiad â rhywbeth arall. Nid peniwr o bethau yw y greadigaeth, ond y mae hi fel adeilad daclus a threfnus, a phob un o'r meini, a'r ystafelloedd, a'r dodrefn, yn ei briodol le ei hun: neu y mae hi fel peiriant cywreinwaith, yn yr hwn y mae pob rhan yu olwyn, fawr neu fechan, a phob un yn troi, yn ysgogi, ac yn gweithio mewn cyssylltiad â'r holl olwynion ereill, i ddwyn ym mlaen amcanion y Gwneuthurwr. Nid annbebyg i hyn, mewn rhyw ystyr, ydyw yr Ysgrythyrau. Mae cynllun yr Ysgrythyrau yn cynnwys llawer iawn o wrthgyferbyniadau. Mae hyn i'w ganfod yn enwedig yn Llyfr Iob, y Salmau, y Diarebion, y Pregethwr, y Prophwydi, a'r Epis- tolau. Mae gwrthgyferbyniad nodedig yn yr ail bennod ar bymtheg o Lyfr y Prophwyd leremi, Ue y darlunir y 46—xv. dyn duwiol a'r dyn ánnuwiol yn y dull mwyaf portreiadol, trwy gy- ffelybiaethau wedi eu cymmeryd, yn ol arferiad mynych y Gyfrol Sanct- aidd, oddi wrth y byd llysieuol: mae y dyn annuwiol yn cael ei gyffelybu i bren diles a diffrwyth, a'r dyn duwiol i bren tyfadwy a ffrwythlawn. Mi a wnaf ychydig sylwadau ar y naill a'r llall. I.—Y PREN DRWG. " Melltigedig fyddo y gwr a hydero rnewn dyn, ac a wnelo gnawd yn fraich iddo, a'r hwn y cilio ei galon oddi wrth yr Arglwydd. Canys efe a fydd fel grug yn y diffaethwch, ac ni wel pan ddêl daioni; eithr efe a gyfannedda boeth-fanau yn yr anialwch, mewn tir hallt ac anghyf- anneddol.—íeremi xvii. 5, 6. Nid yw dysgedigion ddim yn hollol gytuno pa lysieuyn neu pa bren yw yr hwn y cyfieithir ei enw yma grug. Ond mae yn amlwg y golygir rhyw bren neu ryw lysieuyn diwerth yn tyfu yn y lle mwyaf anfanteisiol ag sy ddichonadwy: yn y diffeithwch, mewn tir hallt. " Ni wel pan ddêl daioni:" hyny yw, pan fo tymmor mwy ffrwythlawn na chyffredin ar goedydd a llysiau, nid yw y grug hwn yn gwybod dim am dano, nac