Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR H A U L. "yng ngwyneb haul a llygad goleuni." "a gair duw yn uchap." Rhif. 181. IONAWR, 1872. Cyp. 16. CANIADAETH Y CYSSEGR FEL RHAN BWYSIG O'R GWASANAETH DWYFOL. " Mawl a'th erys Di yn S'ion, 0 Dcluw."—Salm lxv. 1. "Pob perchen anadl, molianned yr Arglwydd."—Salm cl. 6. Wrth wrando yn ddiweddar ar un o weinidogion yr Eglwys yn pregethu ar y golygiadau rhy isel a fynwesir gan orrnod o'n cyd-Eglwyswyr mewn perthynas i Wasanaeth, seremoniau, a sacramentau Eglwys Crist, daeth 1 öi meddwl nad yw cerddoriaeth y cyssegr mor uchel ag y dylasai fod ytti meddyliau llawer o glerigwyr a lleygwyr yr Eglwys; yn wir, mae yn ]8el iawn yng ngolwg gormod o honom. Mae hyn i'w ganfod, nid yn unig ya yr annyddordeb a gymmerir mewn cyfarfodydd canu, pryd a lle eu cynnellir, eithis hefyd yn y di- faterwch a'r difiasrwydd a ddangosir tuag at yr hyn a ddadgenir gan ereill. " Fy mrodyr, ni ddylai y pethau hyn fod felly." Canys fel ydywedodd Dr. Goodwin, Arglwydd Esgob Carlisle, ar bregeth yn ddiweddar mewn cyfar- fod cyhoeddus yn ei esgobaeth, ei fod ef'yrí teimlo yn dra angenrheidiol i alw sylw y bobl at y rhan hon o'r Gwasanaeth sanctaidd, sef y rhan gerddorol o hono, gan fod cerddoriaeth o gymmaint Ues iddo. " Rhaid i mi," meddai, " ddywedyd fod Gwasanaeth Eglwys Lloegr trwyddo yn gerddorol 1—xvi. —fod y Llyfr Gweddi Gyffredin yn hanfodol gerddorol: ac os bydd i ni ddarostwng y Gwasanaeth gogon- eddus a drefnodd y Diwygiad i ni i ryw ýsgerbwd oer, Uawn diberoriaeth, fel ag ei darostyngir weithiau, fe fyddwn yn gwneuthur anghyfiawnder â'r Llyfr Gweddi yng nghyd â'r Diwygiad Protestanaidd." O'm rhau fy hun, rhaid i mi gyfaddef fy mod yn cydsynio â'r sylwadau uchod o eiddo ei árglwyddiaeth, gan fod y rhuddellau yn rhoddi y fiaenoriaeth i ganu ar ddarllen neu ddywedyd. Felenghraifft, mewn perthynas i'r Caniadau, Hymn- an, Credoau, Litani, a rhanau ereill o'r Gwasanaeth, ysgrifenwyd, " Yna y cenir, neu y dywedir," &c.—y fiaenoriaeth yn cael ei rhoddi gan awdwyr y rheolau neu'r rhuddellau hyn i ganu ar ddarllen neu ddywedyd; ac nid rhyfedd chwaith, gan mai Gwasanaeth i Dduw ydyw, fe ddylai gaeì ei gyflawnu yn y modd mwyaf godidog. Yn y Cynghor Cyffredinol a roddir ar ddechreu y Foreuol a'r Brydnawnol Weddi, dywedir wrthym amcan ein cydgynnulliad i dy Dduw, sef nid yn