Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

■■■■-.■ : . . ,1 i .." -■ : -■ . ■'■'■' ■■■■.■■ rwff.fi ' .. Y R H A U L. "YNG ngwyneb iiaul a llygad goleüni.' Í£A GAIR DUW YN UCHAE." Rhif. 182. CHWEFROR, 1872. Cyf. 16. DUW WEDI RHAGORDEINIO EIN GWEITHRED- OEDI) DA m. FE-ddywed Sant Paul yn ei Epistol at yr Ephesiaid, yr ail bennod, a'r ddegfed adnod, " mai gwaith Duw ydym, wedi ein creu yng Nghrist íesu i weithredoedd da, y rhai a ragordeiniodd Duw fel y rhodiem ni ynddynt." Mae yn afreidiol ym- helaethu yma mai Duw ei Hun, trwy ei Ysbryd, yw gwir Awdwr yr holl weithredoedd da a wnelom, ac mai Efe " sydd yn gweithio ynom i ewyllysio a gweithr.edu, o'i ewyllys ;da Ef." Ond y mater yr wyf yn dymuno ymhelaethu ychydig ai*no yw y ffaith fod y Goruchaf wedi rhagordeinio ein gweithredoedd da ni, ac wedi eu cynllunio hwynt j7m mlaen llaw, i ni fel ein tasg Gristionogol yn ystod ein gyrfa yn y fuchedd hon. Ac ef allai fod y pwnc yn bwnc lled newydd i rai o ddarllenwyr yr Haul, a gobeithio mai nid annyddorol iddynt fydd ychydig driniaeth, ac ymchwil- iad, ac olrheiniad arno. Ond i ddechreu. Fe greodd yr fíollälluog ddyn ar y cyntaf i gyf- lawnu'r gweithredoedd cyfaddas i'w sefyllfa. Gosododd y Creawdwr mawr ef i lafurio gardd Eden ác i'w chadw hi. Ond sylwer, yr oedd gardd Eden —y tir, y pridd, y coedydd, a'r llys- iau—yn barod iddo ym mlaen llaw, 6—xvi. cyn ei íFurfio o bridd y ddaiar: mewn gair arall, yr oedd yr Arglwydd eisocs wedi rhagordeinio y gweithredoedd ag yr oedd efe a'i wraig Efa i'w gwneuthur. Yr oedd y ffaith fod y Creawdwr wedi eu cynnysgaeddu â dwylaw, yn dangos ddarfod iddo eu creu i weithio. A phan grewyd hwynt, yr oedd eu holl waith yn barod iddynt eisoes wfth law. Yr oedd eu Creawdydd wedi rhag- ddarparu a chynllunio'r gwaith ar eu cyfer. Ac felly hefyd am yr Ail Adda, yr Arglwydd o'r nef, y Dyn Crist Iesu. Anfonwyd Ef i'r byd gan y Tad i gyflawnu gweithredoedd ei gyfryng- dod. Ond erbyn ei ddyfod Ef i'r byd, yr oedd y gweithredoedd hyn oll wedi eu llunio a'u rhagddarparu yn barod iddo. Darparesid, ym mlaen llaw, bobl newynog, fel y byddai iddo Ef eu porthi yn wyrthiol. Darparesid ar ei gyfer Ef ddeillion a byddariaid, fel y rhoddai Efe iddynt lygaid a chlustiau. Yr oedd iddo, wrth law, fudanod, fel y cynnysgaeddai Efe hwynt â thafodau; gwahangleifion, fel y byddai iddo Ef eu glanhau a'u hiachäu; dynion cythreulig, fel y gyrai Efe yr ysbrydion aflan allan o