Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U I €rfm ŵrfi[ẃMu. YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIR DUẀ YN UCHAP."- Rhip. 184. EBRILL, 1872. Cyp. 16. DYLEDSWYDD EGLWYSWYR YN Y DYDDIAU HYN. Dyledswydd pob Eglwyswr yn y dyddiau hyn, yng ngwyneb yr ym- osodiadau haerllug a digywilydd a wneir ar ei Egìwys, ydyw llenwi ei eneu â rhesymau cedyrn o'i phlaid yn erbyn ei gelynion, a dyfod allau Ju ddiofn i'w hamddiffyn. Mae gelynion yr Eglwys yn lluosog—rhai o honynt yu groes i bob math o gi'efydd, ac yu gwadu'r Bod o Dduw, öiegys Bradlaugh a'i gyfeillion; ereill, ttegys Henry Richard a'i frodyr. ddim yn myned mor bell a hyny, ond eto a fyddent yn foddlawn i aberthu pob crefydd er mwyn cael yr Eglwys i lawr; ac ereill drachefn, ag sydd yn barchus o grefydd, ond yn cael eu camarwain, o herwydd eu hanwybod- aeth, gan y ddwy blaicl arall, i Wneuthur pob peth a allont yn erbyn yr Eglwys, gan gredu eu bod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw trwy hyny. Peth hynod iawn, yn wir, eu bod yn tybied mai gwneuthur gwas- anaeth i Dduw yw ceisio tynu i lawr ei achos—achos ag y mae Efe wedi Iwyddo dros gynnifer o oesoedd i oleuo a throi pechaduriaid, ac i daenu crefydd Crist dros y byd! Ond dyma fel y mae yn bod: mae dynion yn y ^lad mor rhyfeddol o dywyll ac an- wybodus a hyny. Dynion gwirion a diniwed ydynt, dymunent wneyd yr | 16-—xvi. hyn sydd iawnj ond gan leied eu gwybodaeth, cymmerant eu llusgo ffordd bynag y byddo dynion cyfrwys a diegwyddor yn dewis eu harwaiu. Ond ì'r pregethwr ddywedyd wrthynt fod afou Teifi yn rhedeg i fyny o'r môr i Dregaron, coelient ef yn union; ni chwiliant ddim drostynt eu hunaiu a ydyw pethau yn bod fel ag y maent yn cly wed, ond llyncu yn uu crynswth y cwbl a ddywedir wrthynt gan ryw grydd neu deiliwr a ddygwyddo fod yu y pulpud, fel pe buasai wedi dyfod o eneu Duw ei hunan. 0 druenus- rwydd cenedl y Cymry! Mae llawer o honynt yn bercheu digonedd o dda a defaid, ef allai, ond nid ydynt yn berehen ar ddigon o synwyr i wahau- ìaethu rhwng yr hyn sydd yu wir a'r hyn sydd yn anwir, nac ychwaith i weled mui gwneyd crefft ar eu cefnau y mae'r pregethwyr, pan y maent yn eu llauw o ragfarn at yr Eglwys i'r dyben o'u cadw yn y ty cwrdd, a thrwy hyny gadw eu ceiniogau. Mae y pregethwyr, yn ddiammheu, yu chwerthin yn dda yn eu cefnau, am eu bod mor wirion a meddal. Dim ond i ddyn fod yn feddianuol ar ddigon o bres yn ei dalceu, a thipyn o lais go dda, a chydwybod ddigon ystwyth i ddywedyd pa gelwyddau a fyno, ac yna fe gaiff fywoliaeth