Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R \> Cîjto éuîí^àìiii Riiif. 185. "YNG NGWYNBB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIR DÜW YN UCHAF." MAI, 1872. Cyp. 16. UNDOD LLYFRAU YR YSGRYTHYR. Yn ein gwaith yn profi amryw o athrawiaethau'r Testament Newydd, ni a fyddwn yn cyfeirio at rauau o'r Hen Destament. Ond wrth wneuthur hyn, rhaid i ni bob amser ystyried ansawdd cyfansoddiad gwahanol lyfr- au yr Ysgrythyrau, a bod yn sicr fod yn gyfreithlawn ac yn rhesymol i ni attegu rhyw athrawiaeth yn y Testa- rnent Newydd ar ddadganiadau, neu brophwydoliaethau, neu gysgodau, neu hanesyddiaeth yn yr Hen Desta- ment, rhag ein bod yn curo'r awyr, ac yn euog o dwyll-ymresymiad. Canys ar yr olwg gyntaf, gwaith ynfyd ac anfuddiol yw seilio adnod yn y Galatiaid neu'r Colossiaid â'r adnodau yn Genesis, neu yn y Salmau, neu yn Amos. Ar yr olwg gyntaf, ac yn ol egwyddorion llenyddiaeth gyffredin, ymddengys i ni fod y Beibl yn gasgliad dygwyd'diadol oysgrifeniadau diberthynas â'u gilydd. Mae amryw- iaeth mawr o honynt wedi cael eu dwyn yng nghyd megys yn ddamwein- iol yn un gyfrol; cofion hanesyddol a chofrestrau llinachyddol, yn ym- ledaenu dros lawer o gannoedd o fiynyddoedd, bywgraffiadau, ymddy- ddanion, hanesynau, rhestrau o an- nogaethau moesol, hanes am brofiadau cenedlaethol a chymdeithasol, cyfod- 21—xvi. iad a gostyngiad personau a gwledydd, y farddoniaeth fwyaf galarus a thosturus, y caniadau mwyaf gorfol- eddus a buddugoliaethus, rhagddy- wediadau a phrophwydoliaethau, cynghorion a rhybuddion, gweddîau a defosiynau; y rhai hyn oll yn gwahaniaethu yn ddirfawr oddi wrth eu gilydd o ran eu hawdwyr, o ran eu dullwedd. o rau tafodiaith, ac o ran y Ue a'r amser yr ysgrifenwyd hwynt, ac oll wedi cael eu gosod gyda'u gilydd megys yn un gyfrol ddigyssylltiad. Yn awr, a ydyw yn bosibl bod llyfrau mor wahanol i'w gilydd a h^m yn llyfrau ag y gellir, yn rhesymol ac ar egwyddorion llenyddol teg, brofi yr un athrawiaethau oddi wrth- ynU Pa gyssylltiad, er esampl, a all fod rhwng Llyfr Ruth a Llyfr y Dadguddiad, rhwng Llyfr y Barnwyr a'r Epistol at Philemon, rhwng Llyfr y Pregethwr ac Epistolau St. Pedr, rhwng Caniad Solomon ac Efengyl Sant Marc? Ond er yr holl wahan- iaeth iaith, a dullwedd, a threfn, a chyfansoddiad, ag sydd rhwng llyfr- au yr Ysgrythyr a'u gilydd, mae ystyriaeth fanol yn dai>gos i ni fod ynddynt oll y fath undod. amcan, a phwrpas, yn gystal yn foesol ag yn ddealltwriaethol, ag sydd yn awgrymu