Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R A U L. Ctjftẃ CnBrftfTÌtìitn. "yng ngwyneb haul a llygad goleuni. "a gaie d'üẁ yn uchap." Rhif. 187. GORPHENAF, 1872. Cyp. 16. ANGEU DISYFYD. Ystyr y gair disyfyd yw sydyn. Hwyrach fod y ddwy sill olaf syfyd, yn dwyn rhyw gyfathrach â dwy sill flaenaf y gair cyfystyr Lladin subitus; a bod y sill di (neu yu hytrach dy) yn flaenddawd gyfnerthol {intensẁe). Ac y mae i'w nodi nad ydys ddim yn arfer y gair (o leiaf yn gyffredin) ond mewn cyssyìltiad a r gair angeu neu farwolaeth. Pa heth a all fod syniadau dynion meddylgar a philosophaidd yn y gwahanol oesoedd ac mewn gwahanol wledydd yng nghylch aùgeu disyfyd? Pa un ai augeu i'w ddewis, ynte angeu i'w ofni, ydyw marwolaeth sydyn? Gan fod dyn yn greadur i farw, a bod selni hir a nychlyd yn beth nad yw neb yu ei ddymuno, ymddengys nad oes dim mewn natur nac mewn philosophi yn gwrthdaro yn erbyn y syniad o farwolaeth sydyn. Ac felly gyda golwg ar y cwestiwu, Pa uu ai marwolaeth i'w dewis ydyw, ynte marwolaeth i ymswyno ac ym- groesi rhagddi. rhaid i bob cenedl ac oes ei benderfynu yn ol eu syuiadau cyffredinol ar faiwolaeth; ac felly y rhaid i bob dyn benderfynu drosto ei hun, mewn ystyriaeth o'r pwnc ar ei deilyugdod annibynol ei hun ar dir philosophi; canys ar y pwnc hwn, iawn yw i philosophi gael siarad, 31—xvi. yn gystal a chrefydd. Ym mhlith yr Iuddewon dan yr Hen Destament mae Ue i farnu yr edrychid ar angeu sydyn yn augeu annewisol. Ónd byddai paganiaid dysgedig Groeg a Rhufain yn golygu'r peth yn dra gwahauol. <Àc odid nad felly y golygir ef gan baganiaid yn gyffred- inol o'u hamser hwy hyd y dydd heddyw. Pan oedd Iŵl Caisar yn swpera gyda'i gyfeillion ar y prydnawn cyii y diwrnod y llofruddiwyd ef yn y senedd, a phan oedd mynydau ei yrfa ddaiarol ef felly wedi eu rhifo, gofynwyd iddo, pa fath angeu, yn ei farn ef oedd yr angeu mwyaf dewisol ? Atebodd yntau, mai yr angeu mwynf sydyn. Ond mae yr Eglwys yn ei gogon- eddus Litani, yn yr hwn y mae hi yn gweddîo yn ostyngedig a thaer, fel cynnrychiolydd dynion daiar yn gyffreditjol, yn crybwyll angeu di- syfyd. sef marwolaeth sydyn, fel un o'r pethau mwyaf dyehrynllyd. Mae hi yn ei grybwyll ef yn olaf o amryw bethau dychrynllyd ag y mae hi yn eu crybwyll, a phob un o honynt yu olynol yn fwy dychrynllyd na'r pethau blaenorol:— " OddÌ wrth fellt a thymmestl; oddi wrth bla, haint y nodau, a newyn; oddi wrth ryfel a