Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L. €y$m torfrjrìẁÌE. "YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DUW YN UCHAP." Rhip. 191. TACHWEDD, 1872. Cyp. 16. CLEDDYF GOLIATH. Mab yn resyn braidd ua byddai genym fwy o hanes y cleddyf gogoneddus hwn. Mae yu fwy euwog na chleddyf Oaledfwlch Arthur, frenin Prydain. Ag ef y torodd Dafydd, pan yu llanc, ben y cawr Goliiath. Dywedir i ni yn 1 Samuel xvii. 54, "A Dafydd a gymmerodd ben y Philistiad, ac ai dug i Ierwsalem; a'i arfau ef a osod- odd efe yn ei babell." Ym mhhth arfau'r cawr yr oedd yu ddiammheu ei gleddyf. Ond cyn myned ym mhellach, gellir gofyn, Pa fodd y dygodd. Dafydd beu y Phihstiad ì Ierwsalem, a hithau ar y pryd ym meddiant v Iebusiaid? Yn ol amser- yddiaeth ýr Archesgob Ussher, cym- merwyd diuas Iebus (sef lerwsalem) gan Ioab ym mhen pymtheg mlynedd ar ol i Dafydd orthrechu Gohath. Pa fodd ynte y cymmerodd efe ben y cawr i Ierwsalem bymtheg mlynedd cyn i Ioab ei hennill hiî Maer Deon Stauley yn esbonio'r anhaws- dra hwn fel y canlyn:-Mae efe yn meddwl mai Nob, y ddiuas offeinadol, yn lle Siloh. oedd y pen gogleddol i Fynydd yr Olewwydd; a bod Nob mor agos i Ierwsalem fel yr ystynd hi ar ol hyny megys yn rhan o Ierw- salem; ac mai, mewn gwiriouedd, i Fob y dug Dafydd ben y cawr, yr hon a elwir Ierwsalem yn yr adnod, 51 am ei bod hi, yn amser yr ysgrifenydd sanctaidd, yn myned dan yr enw Ierwsalem: felly galwodd yr ysgrif» enydd sanctaidd Nob dan yr enw Ierwsalem yn fìaen-gymmeriadol (pro- leptically). Ond i ddyfod at yr arfau: uid oes dadl uad oedd cleddyf Golîath yn un o'r arfau hyn, y rhai a osododd Daf- ydd yn ei babell, sef yn ei babell ei hun. Ond beth a ddaeth o'r cleddyf ar ol hyny? Yn fuan ar ol lladd y cawr, aeth Dafydd i lys y Brenin Saul, lle yr ymddygodd Saul ato mewn ysbryd o eiddigedd chwerw a chasineb dwfn. Ac y mae yn natur- iol i ui feddwl mai nid diogel oedd i Dafydd gymmeryd cleddyf Goliath gydag ef i lys y brenin hanuer gwall- gof. Ond cymmerodd rhywun ofal am y cleddyf; ac yn 1 Samuel xxi., yr ydym yn cael y cleddyf yn y cyssegr yn Nob, yn cael ei gadw yn anrhydeddus gan yr offeiriad Ahime- lech, at yr hwn y ffodd Dafydd rhag Saul. Yr oedd hyn, yn ol Ussher, yn y flwyddyn uesaf ar ol lladd Goliath. Yr oedd Dafydd yn y cyfamser wedi bod yn grwydryn erlidiedig o herwydd cynddaredd Saul; ac ymddengys nas gwyddai, neu ei fod wedi anghofio, fod y cleddyf yng nghadw gydag Ahimelech yn y cyssegr yn Nob. -XVI.