Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR H A U 1/. Cîjfra terfijrìẁiu. "YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEÜNI." "A GAIR DUW YN UCHAP." RfílF. 192. RHAGFYR, 1872. Cyp. 16. GWYNFYD Y NEF YN DALEDIGAETH. Mae yn gyduuol â doethineb a chyfiawnder y llywodraeth ddwyfol fod cyssylltiad annattodol rhwng buchedd dyn yn y bywyd presennol a'i gyflwr o wae neu o wynfyd yn y bywyd sydd yn ei aros yu y byd anweledig. Mae hyn yn tarddu oddi ar y ffaith fod dyu yn greadur moesol, ac yn gyfrifol i'r Barnwr Mawr arn ei weithredoeddj ac mae yn tarddu hefyd oddi ar y ffaith nad ydyw dyn yn y bywyd presen- nol ddim yu derbyn, ond i raddau bychain, yr hyn sydd yn gyfaddas i natur foesol ei weithredoedd. Yn y byd hwn, nid yw'r dyn cyfiawn a chrefyddol, a'r hwn sydd yn ofui Duw ac yn cilio oddi wrth ddrygiom, ddim yn derbyn oddi ar law Rhag- luuiaeth mo'r hyn sy'n gymmesur i'w ymddygiad, ond i raddau: ac nid yw'r dyn drygionus ac annuwiol ddim yn derhyn yr hj» sydd yn gymmesur i'w weithredoedd yntau, ond i raddau. Yn y gwrthwyneb, mae'r cyfiawn, fel y mae'r Salmydd yn cwyno, yn cyfarfod â llawer o esmwythyd a llwyddiant yn y bywyd hwn; tra mae'r duwiol yu dyoddef llawer o adfyd, ceryddon, a helbul. Trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i'r duwiol fyned i mewn i deyrnas Dduw; ond nid trwy lawer 06—xvi. o orthrymderau, ond yn aml trwy lawer o hawddfyd, y mae yr annuw- iol yn myned i'r llyn sy'n llosgi gan dân a brwmstan. Ond yn y farn fawr ddiweddaf, fe wastatëir yr holl anghyfartalwch hwn, ac fe geir y pryd hyny weled mai uniawn yw holl flÿrdd Duw tuag at blant dynion ac nad ydyw Efe ddim yn gweled yn dda i wneuthur cam â gwr yn ei fater. Y pryd hyny, ac o'r pryd hyny allan byth, fe fydd y cyfiawnion a'r anghyfiawniou mewn cyflwr afydd yn berffaith gymmesur ag ausawdd eu gweithredoedd moesol tra y byddont wedi bod yn y bywyd daiarol hwn. Ar ba egwyddor ynte—ar ba e<*- wyddor gyffrediuol—y bydd i'r Holl- alluog weithredu yn y dydd hwnw yug ughyfartaliad ei ymddygiad at blaut dynion yu ol natur eu gweith- redoedd? Mae yn ddilys mai ar yr egwyddor gyffredinol o unioudeb tegwch, a chyfiawnder didderbyn wyneb: canys yn y dydd hwnw Efe a rydd i bob dyn yn ol ei weithred. Ond mae gwell gair na rhoi, sef talu. Mae'r gair talu yn golygu cyfiawnder mewn dull mwy peudant ac eglur na'r gair rhoi: a'r gair talu sydd fwyaf arferedig yn yr Ysgrythyr: "Ti a deli i bob dyn yn ol ei weith- red."—Salm lxii. 12. "Yr Hwn a