Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR H A UL (íijfoa tofi|iŵiiu "YNG ngwyneb haul a llygad goleuni.' "a gair duw yn uchap." Rhif. 301. IONAWR, 1882. Cyp. 26. AT EIN DARLLENWYR. Yr ydym wedi ein cludo ym mlaen gan olwynion prysur a chyflym amser i ddechreu y flwyddyn 1882 o oedran Pryniawdwr y byd, braidd heb yn wybod i ni ein hunain. Y mae pum mlynedd ar hugain wedi myned heibio er pan symmudwyd yr Haul o Lanymddyfri i Gaerfyrddin. Mae llawer o gyfnewidiadau wedi cymmeryd lle er yr amser hwnw, cyfnewid- iadau cynideithaso], gwladol, crefyddol, &c. Pe cymmerem adblwg ynol ar edyn y meddwl a'r cof dros ysbaid o chwarter canrif canfuem lawer o fylchau cymdeithasol a theuluol, o'r palas breninol i'r bwthyndy bychan gwyngalchog yng nghanol y wlad. Ar yr adeg hòno yr oedd Brutus, penaeth ysgrifenwyr Cymru, yn fyw—golygydd cyntaf yr Haul ; ond y mae ef heddyw yn huno yn dawel ym mynwent wladaidd Llywel. Mae llawer ereill o hen bleidwyr gwresog yr Haül wedi ymadael â'r fuchedd hon: y Parch. Morris Williams (Nicander), yr ysgolhaig a'r bardd peni- gamp; y Parch. David Parry (y Gloch Arian), ficer Dyfynog; Dx. Griffìths (Ioan Aur Eneu), Llandeilo Pawr; yr Hybarch Archddiacon Williams o Gaerfyrddin, enw yr hwn sydd yn beraidd heddyw yn ei dref enedigol. " Gonest galon a gwyneb, Ni wrthododd ei nawdd i neb." Y Parch. Latimer M. Jones, Caerfyrddin; y Canon Griffiths, Llan- gynwr; yng nghyd â phen bugail esgobaeth Ty Ddewi, yr Esgob Thirl- wall, yr esgob cyntaf ag y mae genym hanes am dano am oesau a bleid- iodd lenyddiaeth ein gwlad; ond nis gallai ei uchel ddysgeidiaeth na'i alluoedd meddyliol gadw angeu draw. Yn yr amser gynt y pulpud oedd bron yr unig allu ag oedd yn cael ei ddefnyddio i oleuo y werin, yng nghyd â'i lawforwynion; ond y mae peiriant Ercwlffaidd arall yn myned ym mlaen ac yn cynnyddu mewn gallu a dylanwad er da neu er drwg y naill flwyddyn ar ol y llall o fewn y pum mlynedd ar hugain diweddaf yma, sef y wasg. Mae lle i ofni fod y werin yn cael eu dylanwadu ganddi yn fwy mewn llawer lle na'r pulpud ei hun yn awr. Mae y wasg yn fendith annhraethol i bawb—i'r pendefig yn ei balas, i'r amaethwr ar ei fferm, i'r masnachydd yn ei faelfa, y crefftwr, y glöwr, y 1—XXVI.