Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T? TT A TT T ±\> Jtl ÌÎL U JU • Cîjfoa ŵtrfiìrîẁiu. "YNG NGWYNEB HAÜL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DÜW YN ÜCHAF." Rhip. 304. EBRILL, 1882. Cyp. 26. CYLCHDREM. HAERLLÜGRWYDD YMNEILLDUOL. Pan oedd y Bil Claddu o dan ystyriaeth y Senedd ceisiai rhai Eglwys- wyr—clerigwyr yn ogystal a Ueygwyr—dawelu eu meddyliau eu hunain yn ogystal ag eiddo ereilî drwy ddweyd roai gwell oedd " rhoi tamaid i gi drwg na'i gicio," ac y byddai Ymneillduwyr yn llonydd am byth ar oícael y Bil Claddu yn gyfraith y tir. Ofnem ar y pryd fod y cyfryw Eglwyswyr yn coleddu syniadau rhy ffafriol am Ymneilldu- wyr, ac nad oeddynt wedi talu sylw i'w dyfeisiau, eu hamcanion, eu cyfiwr presennol, a'u dichelì; ac y mae amgylchiadau dìweddar wedi ein cadarnhau yn fawr yn y cyfryw ammheuon a goleddem yr adeg hòno. Yn ddiweddar ysgrifenodd y Parch. II. Ward-Price, gweinidog Cyn- nulleidfaol, Caerlleon, at y Chester Cemetery Company, i'w hysbysu yr amcanai yn y dyfodol fyntumio yr hawl o ddefnyddio y capel cyssegr- edig wrth wasanaethu mewn angladdau yn y rhan gyssegredig o'r gladdfa. Ymgynghorodd y cwmni o barthed i'r mater â'r Cyfreithiwr Cyffredinol; a dyma ei ddyfarniad:— " Yr wyf o'r farn nad oes hawl gan Anghydffurfwyr, yn rhinwedd darpariadau y Burial Laws Amendment Act, 1880, i ddefnyddio y capel cyssegredig yng nghladdfa Caerlleon. Rhydd yr act yr hawl i gladdu heb wasanaethau Eglwys Lloegr, neu gyda gwasanaethau Cristionogol ereill. mewn mynwentydd (eglwysig) a chladdleoedd. Y mae y gair olaf yn ddiau yn cynnwys claddfa (cemetery), ond yr wyf yn credu nad ymestyn gweithrediad yr act ond i'r rhanau hyny o'r gladdfa ag a ddefnyddir fel claddle (graveyard)—h.y., i'r dyben o gladdu—ac nad ymestyn yr hawl i ddefnyddio y capel cyssegredig yn y cyfryw gladdle, mwy nag i ddefnyddio yr Eglwys mewn mynwent gyíírediu. "Farrer Hersohell." Nid ymfoddlonodd Mr. Price ar y dyfaruiad teg a gwyneb-agored hwn, ond mynodd ymgynghori eto ar Judge Adwocate General, yr hwn a atebodd, 19—xxvi,