Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

€ì\îm ímfyûìm, "YNG NGWYNBB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." "A gair duw yn uchaf." Rhif. 306. MEHEFIN, 1882. Cyf. 26. UNDEB YR EGLWYS. GAN M. ROBERTS, LLANFAIR ISGAER. Pe gredir gau lawer o ddynion fod ytnraniadau crefyddol yn fendithiol i Eglwys Crist. Yr ydyrn wedi clywed Ymneillduwyr yn dywedyd hyn lawer gwaith; a chlywsom am bregethwr yn ddiweddar yn pre~ gethu ar " fanteision ymraniadau." Anhawdd yw deall pa beth a feddylir wrth y manteision hyn, os na feddylir fod ymrauiadau yn achosi ymraniadau, a thrwy hyny achosi mwy o weithgarwch. Ond, a chaniatäu y fautais hon, eto—ar wahan i auysgrythyroldeb ymraniadau ■—mae yr anfanteision yn llawer mwy na gorbwyso y manteision. Ein bendigedig Waredwr a'i sauctaidd apostolíon oeddynt sylfaen- wyr yr Eglwys Gristionogol. Nis gall neb sydd yu galw ei hun yn Gristion ammheu doethiueb y rhai hyn. Sicr yw iddynt roddi i'r Eg- lwys y cychwyniad mwyaf manteisiol i'w llwyddiaut. Ond pa fath gychwyniad a roddwyd iddi ? Ar ba gynllun ei sylfaenwyd? Pa un ai yn llawer o fân g'yrff, yn gwahaniaethu mewn llawer o bethau, rhai pwysig, ac ereill llai pwysig; ai ynte yn un corff gweledig, nid yn unig o ran ffydd, gobaith, cariad, ond hefyd o ran ffurflywodraeth, o ran uudeb allanol yn gystal a mewnolì I bawb cyfarwydd yn yr Ysgrythyr Lân hysbys yw mai yr olaf yw y darnodiad cywiraf o'r Eg- Iwys a sylfaenwyd gau Grist a'i apostoliou. Os un corff a sefydlwyd gan yr hollddoeth Waredwr, pa ham y maidd neb yn awr ddywedyd tt^ai uid dyma'r cynllun mwyaf manteisiol i'r Eglwys yn y dyddiau hynî Ouid tybied eiu hunain yn ddoethach na Duw yw hyn? Ond ef allai y dywed rhywun fod angenion yr Eglwys yn awr yu ^ahanol i'r hyn oeddynt yn nyddiau Crist, a bod hyn yn fwy na chyf- ìawuhau ymraniadau. Buddiol yw i'r cyfryw gofio nid yn unig mai ^n Eglwys a sylfaenwyd ar y dechreu, ond hefyd fod holl rediad yr isgrythyr yn dysgu mai yn un y mae i barhau; a bod o bwys neill- duol i'r Eglwys a'r byd iddi barhau i "gadw undeb yr ysbryd yng ughwlwm tangnefedd." Dyma swrn a sylwedd gweddi ein bendigedig Waredwr yn Ioau xvii. 21, ac fe wneir y deisyfiad—"fel y byddont un —fWy nag unwaith yn yr uu bennod. lihaid ei fod Ef yn rhoddi 31—xxvi.