Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YTTfc TT A T"T ~w €$îm €wxîi\ûìm. YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNl. £ÍA GAIR DUW YN UCHAF." Rhip. 310. HYDREF, 1882. Cyf. 26. DEON BANGOR AR YMEANGIAD GWASANAETH YR EGLWYS. Yr ydym am rai blynyddoedd bellach wedi bod ya cadw ein llygaid ar ddeon Bangor a'i lafur a'i wasanaeth i'r Eglwys, ac yr ydym yn rhwya, o gydnabod ei fod ef yn un o'r deoniaid rnwyaf divvyd a gweithgar a fu yng Nghymru o fewn cof—yn y pulpud, ar esgynlawr, yn y wasg, &c. Yr achwyniad cyffredin gynt oedd mai swydd ddiwaith oedd swydd deon Clywsom un hynafgwr o Eglwyswr yn dywedyd am uu o ddeoniaid diweddar Cymru, na chyhoeddodd ef ê'ymmaint a phamled ceiniog yn ei oes. Nis gellir dywedyd hyn am ddeoniaid Bangor a Llandaf. Yn ddiweddar yr oedd y Deon Edwards yu bresennol yng nghyfarfod Cynghor y Cynnadleddau Esgobaethawl, yn Llundain. a thraddododd yr anerchiad canlynol ar Ymeangiad Gwasan- aeth yr Eglvvys. " Pan mae y boblogaeth yn cynnyddu y mae yn ofynol i oruchwyliaethau yr Eglwys gynnyddu hefyd. Pa fodd y rnae pethau yn sefyll heddyw? Pan ffurfiwyd y drefn blwyfol gyutaf yr °edd poblogaeth Lloegr a Chymru ef allai dan 2,000,000, y mae yn awr yn 25,000,000; y mae y cyunydd yn 264,000 y flwyddyn; Llun- dain ei hun yo 60,000, Ym mhob pum mlynedd ar hugain y mae cenedl newydd yn codi cymmaint a Belgium yn yr ynys hon. I weinyddu i'r 25,000.000, mae genym 20,000 mewn llawn wasanaeth, dim ond un offeiriad gyferbyn â 1250 o bobl, a'u cyfartalu; ond y mae dawer lle heb ddim oud un offeiriad i 12,000 o bobl. Y mae gan ^glwys Lloegr 13,000 o bìwyfi; o'r rhai hyn mae 10,000 yn rhai gwladaidd, yn cynnwys poblogaeth o saith neu wyth miliwn; a'r plwyfí trefawl yn 3000, a phoblogaeth o 17,000.000 i 18,000,000. Y mae y gwaddoliadau goreu lle mae lleiaf o waith i'w wneyd. " Nid oes gan y plwyfi trefawl, 3,000,000 mewn nifer, y moddionneu y nifer ofynol o weinidogion. Beth yw y canlyniad 1 Ýmddyeithriad y dosbarth gweithgar o'r Gwasanaeth Dwyfol, feì y dadguddiodd y cyfrifon a wnawd. Yn Rhufain yr oeddynt yn galw y dynion oedd ^eb eu Cristioneiddio yn baganiaid Cyn bo hir gellir eu galw yn 55—xsvi.