Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yít H A UL. dfòjtas ŵrfyrìẁrá. "YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLBUNI.' "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhifyn 318. MEHEFLN, 1883. Cyf. 27. CYFIEITHAD A CHYFIELTHWYR Y BEIBL CYMRAÈG. PENNOD V.--CYNNORTHWYWYR YR ESGOB MORGAN. Yn ei gyflwyniad i'r freniiies, crybwylla yr Esgob Morgan enwau amryw wŷr dysgedig a.fuont gynnorthwywyr iddo yn y gwaith bendi- gedig o gyfieithu yr Ysgrythyrau. Nid yw yn debygol ddarfod i'r oll o'r personau a enwir gymmeryd rhan uniongyrchol yn y cyfieithad, dim amgen, ef allai, na thaflu eu llyfrgelloedd yn agored at wasan- aeth Dr Morgan. Pa fodd bynag, credir i ddau neu dri o'r rhai a enwir gymmeryd rhan yn jr cyfieithad, er nas gallwn gyfeirio at y ^lyfrau neu y rhanau o'r Ysgrythyr a gyfieithwyd gan bob un yn arbenigol. Am y personau hyn, mae yn gweddu i ni wneuthur coffa. Am rai o honynt, nis gallwn ond bron crybwyll eu henwau, am nad yw banesyddiaeth wedi cofnodi ond ychydig am danynt. Dechreuwn gyda Dr Goodman. Dr Gabriel Goodman* ydoedd e*iedigol o dref Ruthin; enw ei dad ydoedd Edward, yr hwn oedd lasnachwr sidan. Olrheiniai ei achau drwy amryw " abs "—Edward ab Thomas ab Edward ab Siencyn Goch, Llandyrnog, Dyffryn Clwyd. Ymbriododd Edward Goodman â Sisely, merch Edward Thelwall, Plas y Ward. Gabriel Goodman, eu mab, ydoedd sylfaenydd ysgol rammadegol ac yspytty Ruthin. J3u yn ddeon Westminster^am ddeugain mlynedd. Yr oedd ef yr wr tra dysgedig, ac iddo ef y Priodolir y cyfieithad presennol o'r epistol cyntaf at y Corinthiaid yn yBeibl Seisonig. Nid yw yn debygol iddo gyfieithu unrhyw ran o'r Beibl Cymraeg a argraffwyd gan Dr Morgan yn y flwyddyn 1588. Er hyny, fel y sylwyd o'r blaen, bu o wasanaeth mawr i Dr Morgan, yn enwedig yn ystod y flwyddyn y bu yn Llundain yn arolygu yr ârgraffiad o'i Feibl. Wrth fwrdd y deon yr ymborthai Morgan yr Û°H adeg yma. Yr oedd yn wr caredig a haelionus iawn, megys y Pi'awf amryw bethau hyd heddyw; ac nis gallwn beidio dywedyd ei ÍQd yn ateb i'w gyfenw—Goodm&n. Bu farw yn y flwyddyn 1601. 31—xxvn.