Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR H ATJL. tëtjfttö <torfi|rìŵk "YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DUW YN UCHAP." Rhifyn 319. GORPHENAF, 1888. Cyf. 27. CYFIEITHAD A CHYFIEITHWYR Y BEIBL CYMRAEG. PENNOD VI.--YR ESGOB RIOHARD PARRY A BEIBL 1620. Wedi cyfieithad Dr Morgan o'r Beibl, aeth deuddeng mlynedd ar hugain heibio cyn y caid un cyfnewidiad nac argraffiad pellach o hono. Hyn a ddygwyd oddi amgylch yn benaf drwy lafur a diwydrwydd y Dr Parry, olynydd Dr Morgan yn esgobaeth Llanelwy. Richard Parry ydoedd fab henaf ac etifedd John Parry, o Bwll Halawg, Ruthin, sir Ddinbych, a chredir iddo gael ei eni o gylch y flwyddyn 1560. Derbyniodd ei addysg foreuol yn ysgol dra-adna- hyddus Westminster, yr hon a fu yn gychwyn-le addysgawl cynnifer 0 feibion pendefigion ein gwlad. Cafodd Richard Parry y fantais o fod yn ddysgybl i W. Camden, un o ysgolheigion penaf ei oes, ac awdwr hanesiaeth Brydeinig a elwir " Britannia." Gallwn gredu i'r ^ysgybl ieuanc wneuthur y goreu o'i fanteision, canys tra eto ond Pedair blwydd ar bymtheg oed dewiswyd ef yn efrydydd o Goleg ^glwys Crist, Rhydychain, sef yn y fìwyddyn 1579. Nid oes ar gael ond ychydig, os dim, o'i hanes yn ystod ei arosiad yn y coleg. Ond ddarfod iddo wneuthur cynnydd mawr mewn gwybodaeth a öynodi ei hun mewn dysgeidiaeth sydd amlwg ond ystyried ei ^defnyddioldeb mawr, a'i ddyrchafiadau aml ar ol ei ddyfodiad allan o'r coleg. Am y naw neu y deng mlynedd cyntaf ar ol ei yaiadawiad â'r coleg, y mae hanes Richard Parry yn gladdedig o olwg yr hanesydd; oddi eithr y gipdrem egwan a geir arno drwy Syfwng traddodiadau. Y gred gyffredin am dano yw, iddo dreulio yr amser uchod naill ai fel prif neu ail-athraw Ysgol Rammadegol ■"-uthin. Ond gellir yn hawdd ammheu hyn, o blegid ni sefydlwyd y* ysgol enwog hon hyd y flwyddyn 1595, sef gan y Deon Goodman; ^ athraw cyntaf y cyfryw ysgol ydoedd gwr eglwysig o'r enw Robert Grruffydd. Ond fe gredir yn gyffredinol fod Dr Parry yn ficer Gres- f°i"d a changhellydd Eglwys Gadeiriol Bangor yn y flwyddyn 1592. 37—xxvii.