Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L. (ftjfeB torfyruiiin. " YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLBUNI." Í(A GAIR DUW YN UCHAP." Rhifyn 320. AWST, 1883. Cyf. 27. CYFIEITHAD A CHYFIEITHWYE Y BEIBL CYMRAEG. PENNOD VII.----JOHN DAVIES, D.P. Dr John Davies, offeiriad o'r Eglwys Sefydledig, íi gweinidog plwyf Mallwyd, ydoedd un arall a gymmerodd ran flaenílaw yng ngliyfìeithad y " Bibl Cymraeg." Dywed rhai ysgrifcnwyr enwog fod ganddo ran yn y ddau gyfieithad diweddaf, sef Beibl Dr Morgan a Beibl Dr Parry. Seilir y dybiaeth hon ar ran o ragymadrodd y Dr ei hun i'w " Rammadeg o'r Iaith Gymraeg," lle y dywed ei fod wedi treulio rhan fawr o ddeng mlynedd ar hugain yn efrydu iaith ei gydwladwyr, a bod ganddo ryw ran~ yn y ddau gyfieithad o'r Beibl a wnaed iddi. Ond mae y mwyafrif o'n hawdwyr yn credu nad oodd gan Dr Davies un ran ym Meibl Dr Morgan, a rhoddant ddau reswm dros gredu felly, sef nad oedd ef, pan gyhoeddwyd cyfieithad Dr Morgan, ond 18 mlwydd oed, ac felly yn llawer rhy ieuanc i ym- gymmeryd â'r fath waith; ac hefyd mai ym mhen saith mlynedd ar ol hyn y dechreuodd ef efrydu y Gymracg gyclag unrhyw fanylwch, ac nad yw, o ganlyniad, mewn un modd yn debyg y buasai yr Esgob Morgan yn ymddiried unrhyw ran o orchwyl. mor bwysig i neb mor anwybodus o'r Gymraeg. Y mae yn amlwg felly fod rhywbeth i'w ddywedyd dros ac yn erbyn'y syniad: Fod gan Dr Davies ran yng nghyfîeithad Beibl Dr Parry a gredir yn gyffredinol, a bernir mai iddo ef y dylid priodoli llawer o gywrein- ^wydd yr argraffiad hwnw. Am y rhan a gymmerodd Dr Davies yng nghyfieithiad yr Ysgrythyrau, cawn beth eglurhâd yn ei ragymadrodd Lladin i'w eiriadur, lle y dywed, " Os oes rhai yn barod i feio arnaf, ttieddaf, a thaeru fy mod yn fy ail fabandod am fy mod yn ymyryd â'r pethau plentynaidd hyn, fel y geilw rhai hwynt, eto .yr wyf yn gobeithio y caf faddeuant yn hawdd, hyd yn oed gan y bobl hyn, pan y deallont fy mod wedi lledrata yr amser a weriais yng nghylch v 44—xxvir.