Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAÜL. €i\îm ẁrfî|ruMn. "YNG ngwyneb haul a llygad goleuni." "a gair duw yn uchap." Rhifyn 323. TACHWEDD, 1883. Cyf. 27. ELIZABETH; NEU YMWELIAD Y CLAF. PENNOD I. Tua chwarter canrif yn ol preswyliai teulu niewn amgylchiadau cysurus mewn annedd-dy destlus, yn sefyll wrtho ei hun yng nghanol gardd, ychydig bach allan o un o drefydd poblog cyffiniau Lloegr a Chymru. Cynnwysai y teulu wr, gwraig, dau fab a dwy ferch. Yr oedd y gwr o ddygiad i fyny da; Cymro o ran cenedl, ond Sais o ran dysg, tueddfryd meddwl, ac iaith. Gallai ddeall peth Cymraeg, ond ni allai ei siarad i ddim amcan. Peiriannydd {engineer) oedd o ran galwedigaeth, a llanwai y swydd o oruchwyliwr ar un o weithfëydd glo ac haiarn y gymmydogaeth. Yr oedd ei wraig yn Gymräes o ran iaith a theimlad, ond o ddygiad i fyny mewn Ysgolion Seisonig yn Lloegr, ac mor fedrus yn nhafodiaith y Sais ag yn ei mamiaith. Yr oedd yn wraig tra defosiynol; yn aelod gyda'r Bedyddwyr, ac yn ofalus am ei theulu, a charedig a chymmwynasgar wrth bawb o'i hamgylch. Am ei phriod, Mr E—, ni wnelai ef un broífes gyhoeddus o grefydd, ac ni ddywedai ychwaith ddim yn erbyn crefydd. Trenliai ei Suliau yn wastad yn ei lyfrgell, yr hon a gynnwysai lawer o ìyfrau o bob math, yn enwedig llyfrau gwyddonol ac athronyddol. Cym- merai Mr E— ran flaenllaw ym mhob gwaith da yn y plwyf, oddi eithr ei waith ysbrydol. Yr oedd yn selog dros yr ysgolion dyddiol, y clybiau dillad, a'r clybiau cleifion; ac felly daethym, fel curad y lle, yn gydnabyddus ag ef. Yr oeddwn yn ymwelydd derbyniol, er mai achlysurol, â'i dy. Yr oedd y ddau fachgen ar y pryd mewn ysgol ramadegol, ac felly yn fynych oddi cartref; yr oedd y ferch henaf gwedi darfod â'i hysgol, a'r ieuengaf heb fyned o dan ofal ei rnam a'i chwaer eto. Geneth chwarëus, ysgafndroed, ysgafn galon, llawn o chwerthin a chariad oedd yr ieuengaf. Merch ieuanc ddwys-fyfyrgar, hoff o ddarllen, hoff o chwilio i mewn i bynciau dyrys, a neillduol o hoff o'i thad oedd yr henaf. Cl—xxvn.