Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R A U L lil êi\îm (fawftîrìíîlin. YNG NGWYNEB HATJL A LLYGAD GOLETJNI. "A GAIB DTTW YN TJCHAF." Rhifyn 121, IONAWR, 1895. Cyf. XI. PREGETH AR GYFER GWYL GERDDOROL. GAN Y GOLYGYDD. " Y cerddorion a'r cantorion a fyddant yno: Fy holl ffynnonau sydd ynot ti."—Salm. lxxxvii. 7. Rhestbib y salm hon ym mysg y salmau prophwydol ag oeddynt yn blaen-gysgodi dyfodiad Crist, a sef- ydliad ei deyrnas Ef ar y ddaiar. Mae y darlun dysgrifiadol wedi ei gymmeryd oddi wi'th ddinas Jerusalern pan ydoedd yn ganolbwynt addoliad a gobaith y genedl Iuddewig, ae yn gyrchfan y llwythau yng nghyd. Ond ymeanga y brophwydol- iaeth i ddangos y byddai Sion yn ganolbwynt cyd- ymgynnulliad yr holl genedloedd eylchynol ac yn ffynnon eu mwynhâd. Ceir yn y salm ddysgrifiad o dröedigaeth hen elynion chwerwaf Israel, ac o'u mabwysiad trwy adenedigaeth i deulu Duw, a'u cof- restriad bob un megys wrth ei enw i Sion. Yma daw yr adnod a gymmerwn yn destyn i mewn yn dangos llawenydd y dychweledigon, a'r llawnder sydd yn eu haros yn Sion : " Y cantorion a'r cerdd- orion a fyddant yno : Fy holl ffynnonau sydd ynot ti." Edrychwn am fynyd ar y darlun a osodir o'n blaen. Pictiwr ydyw o lawenydd pererinion gwedi cyrhaedd at ffynnonau o ddyfroedd byw ar ol taith luddiedig trwy yr anialwch crasboeth. Y mae ym mysg yr ysgrifeniadau Iuddewig draddodiad pryd- ferth am y graig a holltwyd yn Horeb, ac y llifeir- iodd y dwfr o honi, i'r afon a lifai o honi, ganlyn yr Israeliaid ar eu holl deithiau i dori eu syched. At hyn y cyfeiria St. Paul, lle y dywed am y tadau Iuddewig : " Hwy a yfasant oll o'r graig a oedd yn canlyn; a'r graig oedd Crist" (1 Cor. x. 4). At yr un amgylchiad y cyfeiria yr emynydd pan yn canu : 1—xi. Agor y ffynnonau melus Sydd yn tarddu o'r graig i maes: 'II hyd yr anial maith canlyned Afon iachawdwriaeth gras. " Fy holl ffynnonau sydd ynot ti." Am hyny, mewn llawenydd y tynwch ddwfr o ffynnonau iach- awdwriaeth. Dyma Eglwys y Duw byw. Ffynnon ydyw yn tarddu, llenwi, cynnyddu, llifeirio drosodd —llifo yn ffrydiau. Nid pwll ydyw i ymlygru a gwaelodi, llawer llai pydew toredig na ddeil ddwfr, " eithr ffynnon o ddwfr bywiol yn tarddu allan i fywyd tragwyddol." Dyma ydyw Eglwys Dduw yn anialwch byd. Y mae yn rhoddi bywyd, ireidd-dra, ffrwythlondeb, a phrydferthwch i'r anial diffaith, ac yn glanhau ymaith bob budreddi. " Fy holl ffynnonau sydd ynot ti." Pwy sydd yn dweyd hyn ? Y mae Duw yn ei ddweyd uwch ben Eglwys Grist. Yng Nghrist y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol: " Fy holl ffynnonau sydd ynot ti." Pwy a ddywed hyn? Y mae pob credadyn yn dweyd. Nid oes i ni ond un Ar- glwydd Iesu Grist. Nid oes gan Dduw gyfrwng ar y ddaiar, ond ei Eglwys i'w bendithio a chyfoethogi hi, i buro ei moesau, a rhoddi iddi fywyd ysbrydol. Ofer ydyw i ni gloddio am ddyfroedd byw yn un man tu allan i ddadguddiad sanctaidd gweinidogaeth y Gair, ei defosiwn, a mawl. Dyma yr afon a aeth allan o Eden dydd y Pentecost i ddyfrhau y ddaiar, ac y mae yn bedwar pen. i. Y ffynnon neu afon gyntaf ydyw y weinidogaeth Gristionogol. Dyma ffynnon y gwirionedd—fîyn- nonell y dysg a'r athrawiaeth. Y gair yn eu cych- wyn hwy oedd, "Chwi a fyddwch yn dystion i mi yn Jerusalem, ac yn Judea, ac yn Samaria, ac hyd eithaf