Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U 1 j • lil êtfm ŵrfifiìẁnt. YNG NGWYNEB HATTL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIB DUW YN TJCHAF." Rhifyn 123. MAWRTH, 1895. Cyf. XI. LLEIHAD POBLOGAETH Y PLWYFYDD GWLEDIG. Y mae lleihâd poblogaeth y plwyfydd gwledig gwedi bod yn destyn ystyriaeth ddifrifol pob gwir ddyn- garwr a gwladgarwr o ddyddiau awdwr talentog cathl " Y Llan Anghyfannedd " hyd yn awr. Mawr yw y defnydd a wna y gwleidyddwr pleidgarol o leihâd y boblogaeth i bardduo ymddygiad a chym- meriad meddiannwyr ac amaethwyr y tir. Er mwyn ymdrin â'r pwnc hwn mewn modd deallus, cymmer- wn olwg ar leihâd poblogaeth y plwyf hwn, sef Llangwm, Dinmael. Yn y ílwyddyn 1831 yr oedd y boblogaeth yn 1017, yn 1871 yr oedd yn 981, ac yn 1891 yn 819. Yr oedd y lleihâd yn ystod y deng mlynedd diweddaf yn 163. Dengys hyn fod lleihâd cynnyddol yn cymmeryd lle yn y boblogaeth. Bu yn y plwyf ar un adeg boblogaeth o un cant ar ddeg, sef yn 1851. Ond o'r amser hwnw hyd yn awr y mae wedi parhäus leihau. Pa beth ydyw gwir achos y fath leihâd ? Nid trais y tirfeddiannwyr, na chy- bydd-dod yr amaethwyr, fel y dadleua aml sylwedydd digon gonest, ond tra arwynebol, ydyw yr achos, ond deddfau trefnidedd, masnach, a llafur. Y mae cyd- bwysedd elw, manteision, a chyíleusderau bywyd gwedi bod yn graddol ochri yn ffafr y gweithfëydd mawrion a masnach-drefydd, ac yn erbyn y plwyfydd gwledig. Fe ymfuda dynion i'r lleoedd y caffont fwyaf o elw, yn fawr a bychain, dysgedig ac annysg- edig. Yr oedd yn y plwyf hwD ar ddechreu y gan- rif, ac ym mhell ar ol hyny, amryw o yswain- amaethwyr, meddiannwyr eu tir eu hunain, yn byw mewn llawnder gwledig. Pa le y mae eu holafìaid, yn wyrion ac yn orwyrion, yn awr ? Y mae pedwar o'r teuluoedd hyn er ys amser maith mewn masnach yn Llundain, ac wedi dirfawr lwyddo yn y byd, fel y mae yn dda genym ddweyd. Fe'u denwyd hwy 5—xi. allan o'r plwyf gan y rhagolwg am ennillion llawer gwell. Dyma un achos o leihâd poblogaeth y plwyf- ydd gwledig. Y mae ennillion gwell, a chyflogau a chyfleusderau rhagorach, a chymdeithas fwy deniadol y gweithfëydd a'r trefydd ýn denu y preswylwyr gwledig allan o'u cartrefleoedd. Ond y mae llanw y gweithfëydd a'r trefydd mas- nachol wedi creu trai yn y plwyfydd gwledig. Nid ydyw y plwyf hwn yn cynnyrchu yr un nwyddau nac yn dilyn yn union yr un celfyddydau yn awr ag ydoedd drigain mlynedd yn ol. Onid oedd yma drigain mlynedd yn ol droell wlan ar waith mynych bron ym mhob tŷ, a throell lin hefyd mewn llawer man ? Onid oedd yma ffactri a phandy? Onid oedd yma wëyddion a theilwriaid a chryddiou ? Ac oni fyddai yma dorwyr mawn ar waith am wythnosau bob gwanwyn, a thacluswyr toau gwellt bob diwedd blwyddyn ? Ac yn llawer mwy diweddar, oni arferai bechgyn gyda gweddi gario glo yma o'r Waun, y Oefn Mawr, ac Afon Eithaf? Ac oni chedwid dyrnwr a phorthwr gwartheg bron ar bob ffarm? Ond y mae y pethau hyn oll wedi myned heibio, a swn y ffust yn yr ysgubor wedi dystewi mor Uwyr a chwyrnelliad y droell yn y gegin, ac y mae adsain lon einion y gof gwedi mwy na hanner dystewi. Beth ydyw yr achos o hyn ? Y mae trefnidedd gymdeithasol a deddfau llafur wedi cyfnewid. Mae y crefftwyr a enwyd wedi tyru at eu gilydd i ganol- bwyntiau cyflëus a manteisiol, lle y gallant, dan gyfarwyddyd meistri, a chynnorthwy peiriannau, a dosbarthu gwaith, wneuthur y nwyddau o wlaneni, brethyn, dillad, esgidiau, erydr, ogau, a phob celfi a nwyddau ereill, yn llawer rhatach nag y gall y crefft- wr unigol eu gwneyd yn y wlad. Defnyddir glo yma yn danwydd yn lle mawn, a llechau toi yn lle gwellt. Ehaid ydyw i boblogaeth yr ardaloedd amaethyddol leihau pan welir fod y creíftwyr bron