Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR H A U L. lil êifim (C^rfyrìẁiiu YNG NGWYNEB HATJL A LLYGAD GOLEITNI. "A GAIR DTJW YN TJOHAF." Rhifyn 124. EBRILL, 1895. Cyf. XI. NOSWYL DEWI YNGf NGHAERLUDD A MANOEINION. Pa fodd y daeth Dewi yn nawddsant holl genedl y Cymry nid oes neb a all ddweyd yn eglur. Dwyf- eiddiwyd ef yng nghalon y genedl cyn ei ganoneiddio yn yr Eglwys. Y mae yn hŷn na hanes ac na thra- ddodiad. Braidd y gwelodd traddodiad na hanes ef ^^n y cnawd. Clywed am dano a ddarfu y ddau- Yjfi ysbryd byw y teimlwyd ei bresennoldeb ym Llefawesau e* ddysgyblion, a'r rhai hyn a fynegasant y iij^f^ am dano tra yn myned â'r gwaith a ddechreu- i^^Y y e^ ym mlaen. Dengys hyn ddyfnder yr argraíf a ẁnaethai Dewi Sant ar gydwybod a syniadaeth y genedl. Yr oedd Dewi Sant yn blodeuo yn niwedd y bummed ganrif a rhan o ddechreu y chweehed, ar fin yr adeg y daeth y Seison i ymosod ar derfynau Cymru. Erbyn dyfodiad y Seison hyn at derfynau Cymru, yr oedd y genedl Gymreig oll yn ymarferol yn Gristionogion, ond y Seison yn baganiaid. De- chreuodd yr ymdrech galed ar derfynau Cymru rhwng y ddwy genedl, y naill dan faner ddu pagan- iaeth, a'r llall dan faner crefydd Crist a gwladgar- wch. Yn enw Duw a Sant Dewi ymfyddinai gweddill Silwriaid Deheudir Cymru yn erbyn eu gelynion paganaidd. Ennynid tân gwladgarwch a chrefydd dan yr un faner, a daeth Dewi yn nawdd sant y genedl. Cyfuna byth mwy ynddo ei hun wladgar- wch, cenedlgarwch, a chrefyddoldeb Cymru. Gall holl genedl y Cymry edrych yn ol ac edrych i fyny ato ef fel canolbwynt cydgyfarfyddiad a chyfuniad. Eel Uawer o ddaionus bethau Cymreig, megys yr eisteddfod, yr oedd coffadwriaeth Dewi Sant, ac yn neillduol ei wyl goffadwriaethol, wedi syrthio i ddwy- law ammhriodol i raddau pell. Darllenwn hanes ymgynnulliad ein cydgenedl yng nghyd mewn tafarndai yn Llundain, a manau ereill, i ddathlu coffadwriaeth Dewi Sant, ar ddechreu y ganrif hon. Cenid yno ganiadau difyrus, ac yfid llwnc-destynau gwladgarol, ond braidd y gall neb gredu y buasai 7—xi. Dewi Sant pan yn y cnawd yn ymuno â'r cwmni. Hawdd genym ddychymmygu y darlun a ellid dynu o'r frawdoliaeth Gymreig yn ymgynnull at eu gilydd ar nos wyl Dewi yn y King's Head, Ludgate Hill, yn Llundain, ac o dan lywyddiaeth y duchanfardd a goganfardd, ffraeth, ond gwladgarol, Jack Glan y Gors, yn dathlu gwyl goffadwriaethol nawddsant ein gwlad. Yn sicr, yr oedd gwladgarwch wedi cilio i gonglau rhyfedd i fwynhau ei hun. Trown ein llygaid oddi wrth gwmni ysgafn y King's Head ychydig o bellder i Eglwys Gadeiriol fawreddus St. Paul, a thynwch ddarlun o dros naw mil o addolwyr, yn myned trwy wasanaeth ardderchog yr Eglwys yn Gfymraeg, ac yn canu emynau ac anthemau melus Cymreig, nes adseinia holl nenfwd yr adeilad, a bron y gellid teimlo fod angylion nef yn ymuno o'r uchelder yn y mawl. Dyma ddull yr oes hon o ddathlu gwyl Dewi Sant. Dyma ddull teilwng o genedl y Cymry, a theilwng o goffadwriaeth ei nawddsant. Oni theimla pob Cymro ei galon yn gwresogi, a'i ysbryd yn sirioli wrth feddwl am ddyrch- afìad parch, enw, ac anrhydedd ei gydgenedl yn ninas Llundain, a phob man arall o'r byd, a'i syniad hithau o'r hyn sydd wir fuddiol a mawreddus. Ym mysg yr aml draddodiadau prydferth am Dewi Sant, y mae dysgrifìad o hono yn cael ei alw i wrthwynebu cyfeiliornad y Pelagiaid yn Llanddewi Brefi. Gwedi myned yno y fath ydoedd ei yswildod a gostyngeidd- rwydd, fel na fynai esgyn uchelfainc a wnaethid o wisgoedd iddo sefyll uwch ben y gynnulleidfa, ond taenodd napcyn dan ei draed ar y llawr, a dechreu- odd lefaru. Tra yr ydoedd yn Uefaru, dyrchafodd y ddaiar yn union dan ei draed ef yn araf, esmwyth, ac anymwybodol iddo ei hun, nes y daeth yn fryn, ac y gwelid ac y clywid ef yn eglur gan yr holl dyrfa fawr ar y gwastattir is law iddo. Hefyd darlunir colomen â phig o aur ganddi yn eistedd ar ei ysgwydd ef, a chyffwrdd â'i glust a'i eneu, gan roddi iddo ysbrydoliaeth nefol a dawn yr Ysbryd Glân i lefaru. Cymmerwn y traddodiad awgrymiadol yn ddammeg