Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A U L lil êi\îm CnBrfîjrìiMn. "YlíO NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A gaie duw yn uchaf." Ehifyn 128. AWST, 1895. Cyf. XI. AEGLWYDD TENNYSON. Y mae dros lianner can mlynedd er pan gyfarfuodd Eobert Southey, y bardd breiniol, y tro cyntaf â'i ddau ddilynwr mewn ystafell brydferth yn Llundain. Yr oedd William Wordswortb y pryd hyny yn dair ar ddeg a thrigain, ac yn cael ei gydnabod y prif- fardd Seisonig, ac yn addysgydd o'r hyn a ystyrir yn bur ac yn wirioneddol. Daeth yn fardd breiniol ym mhen dwy fiynedd ar ol hyn, a gwisgodd y llawryf am bum mlynedd. Yr oedd Tennyson yn dair ar ddeg ar hugain pan gyfarfuodd â'r bardd Cernywig. Ysgrifenodd Wordsworth ar ol y dyg- wyddiad at ei gyfaill, y Proffeswr Eeid o Phila- delphia:—"Efe ydyw y bardd cyntaf o'r rhai sy'n fyw, ac hyderaf y bydd byw, fel ag i roddi i'r byd gynnyrchion rhagorach eto. Bydd yn dda genych glywed ddarfod iddo amlygu mewn geiriau cryfion ei edmygedd o'm gweithiau. Nid oeddwn yn ddi- bris o hyn, serch fy mod yn meddwl nad ydyw mewn cydymdeimlad â'r hyn a ystyriaf yn benaf yn yn fy ymdrechion, sef yr ysbrydolrwydd, â'r hwn yr ymdrechais wisgo y byd materol ag ef, a'r cys- sylltiadau moesol yr ewyllysiwn dderbyn eu hym- ddangosiad cyffredin." Y mae yr olygfa yma yn un yr hoffwn aros i dremio arni. Yr hen athraw, wrth draed yr hwn y safodd cynnifer o ddysgyblion, a'r bardd ieuanc, enwogrwydd yr hwn i raddau oedd i'w ennill rhag- llaw. Talodd Tennyson gryn deyrnged i'w fiaenor- ydd pan y siaradodd am dderbyn " y llawryf oddi ar aeliau yr hwn na thraethodd odid i ddim yn isel;" a phe buasai Wordsworth byw i ddarllen yr In Memoriam, neu glywed awdl Tennyson i Wellington, buan y canfuasai fod hawliau dyledswydd a gwir- ionedd mor ddiogel yn nwylaw ei olynydd ieuanc 15—xi. ag yn ei ddwylaw ei hunan. Tarawa awdl Words- worth i Ddyledswydd ar gyweirnod uchel:— Ddeddfwr llyra! yr wyt yn gwisgo yn glir Rasusau mwyaf claer y Duwdod pur ; Ni wyddom mwy am ddim y sy mor deg A'r hyf'ryd wên sydd ar dy wyneb claer ; Y blodau oll a chwarddant o dy flaen, A'u sawr ddilynant ol dy gamrau gwiw; Yr wyt yn cadw'r ser rhag myn'd ar chwâl, A thrwot y mae'r nef yn gryf a thirf. Y mae geiriau Tennyson ar Ddyledswydd yn ei awdl ar Parwolaeth Wellington yn llawn mor afael- gar. Darlunia un yn ymdrechu Mewn llafur calon, dwylaw, a thraed. Groesi pigau llym dyledswydd bur, I'r hon mae Duw yn llcuad ac yn haul. Gellir yn briodol dalu yn ol y deyrnged ag a dalodd Tennyson i Wordsworth i'r bardd ymadawedig. Gwisgodd y llawryf am ragor na deugain mlynedd, ac ni ddywedodd trwy yr holl amser odid ddim i iselhau chwaeth foesol yr un darllenydd; ac ni ddarfu iddo wrth ymdrin â phethau mawrion erioed greu ammheuon, y rhai a godasant y fath gynnyrch erchyll. Ehodiai Tennyson yn unol â'i drefn ei hunan:— Dal di y da, a noda ef, Rhag i athroniaeth wthio'n hyf Dros ei Iherfynau : hcfyd dd'od Yn gludydd i arglwyddi'r fall. Mae hyn yn destyn diolchgarwch i bob un sydd yn caru gwirionedd. Cyrhaedda geiriau y bardd gylch eangach na'r athronydd a'r hanesydd. Gosodwyd hwy mewn ffurf a'i gorfoda i lercian yn y meddwl pan fydd geiriau ereill wedi eu llwyr anghofio. Daliant yn y meddwl, gan ennill eu ffordd i lenydd-