Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L %iì #tjfa €mfyîûm. yng ngwyneb haitl a llygad goleinsti. "a gaib dttw yn tichaf." Ehifyn 132. EHAGFYE, 1895. Cyf. XI. SEILIAU CEEDINIAETH, EOUE. GAN A. J. BAL- (Parhâd o duäal. 331.) '' Dysgasai cant o fuddugoliaethau er adeg Eocroi i'r byd ystyried y fyddin Ffrengig yn anorchfygol, pan dorodd Blenheim, a chymmeriad blodau y mil- wyr Efrengig yn garcharorion, y swyn." Dyna un o brif ganlyniadau brwydr Blenheim. Dyna hefyd un gwasanaeth mawr—yn ein barn ni, y mwyaf— wna Mr. Balfour i grefydd yn ei lyfr. Edrychid ar Wyddoniaeth a Naturoliaeth fel byddin anwrth- wynebol, i'r hon y gorfyddid rhoddi i fyny bob cwr o'r maes Cristionogol a ofynai. Ni feddylid am ei gwrthwynebu, ond gobeithid y gadawai rai conglau heb eu meddiannu. Sicr-bethau gwyddoniaeth, damcaniaethau athroniaeth, a thybiau duwinydd- iaeth, oeddent y dywediadau. Eithr torodd " Seiliau Crediniaeth" y swyn. Mwyach nid edrychir ar osodiadau Naturoliaeth fel gwirioneddau i'w derbyn heb ammheuaeth. Pa beth bynag am y rhanau diweddaf o'r llyfr, pery y rhanau cyntaf o wasanaeth ammhrisiadwy. I'r dysgedig a'r athronyddol bydd yr arddangosiad o wendid seiliau Naturoliaeth yn ddadguddiad pwysig. Eithr i'r darllenydd cyffredin, yr hyn wna ymostyng- iad i syniadau materol yn ammhosibl fydd y dadlen- iad o ganlyniadau y syniadau hyny, eu bod yn ddinystriol i deimladau uwchaf dynoliaeth. Eto, y rhan a dỳn fwyaf o sylw yn y byd meddyl- iol yw y drydedd ; ym mha un yr archwilir i achosion crediniaeth, ac y ceir mai nid rheswm ond " awdur- dod " neu " draddodiad " yw achosydd mawr cyfan- gorff ein syniadau, pa un bynag a fyddont ai gwyddonol, moesol ai crefyddol. Mae dyn wedi ei wneyd i gredu y pethau hyn ; ac o'r tu cefn ac o dan 23—xi. bob ysgogiad o eiddo ei reswrn a'i farn bersonol gweithia bwriad Duw er ei arwain at wirionedd a dadblygiad. 0 ganlyniad, ni ddylid dysgwyl gallu egluro a phroíl pob cred mewn unrhyw gangen o wybodaeth. Daethai amryw i'r un casgliad mewn perthynas â duwinyddiaeth: nad ellir profi bodolaeth Duw er enghraifft, ond mae peth planedig mewn dyn ydoedd. Hyd y gwyddom, Mr. Balfour yw y cyntaf i ddweyd yr un peth am wyddoniaeth. Ni fyn edrych ar dduwinyddiaeth, ychwaith, fel adran o wyddoniaeth. Er osgoi y gwrthdarawiad rhyngddynt, ystyria rhai y flaenaf fel un o ffrwythau y ddiweddaf, fod gwyddoniaeth i ffurfio sylfaen i wirionedd crefydd; ac mai ar brawfion gwyddonol y maent i'w derbyn. Yn lle hyny, dwy gangen annibynol ydynt—y naill a'r llall yn sefyll ar ei seiliau ei hunan. Dau gylch gwahanol ydynt, dwy adran o wybodaeth. Ac ymgais y rhan ddiweddaf o'r llyfr yw dargan- fod unoliaeth yr adranau hyn. Chwilio am "gysson- deb gwybodaeth." " Unoliaeth" ydyw un o syniadau diammheuol y dydd, ac olrhain pob peth i un tarddle yw nod athronyddol a gwyddonol yr oes. Boddlonid flyn- yddau yn ol ar briodoli pob gweithrediad naturiol i ddeddfau natur. Heddyw credir nad yw yr amryw ddeddfau hyn ond amlygiadau o un ddeddf fawr. Y canfyddid pe y gellid eu priodol olrhain eu bod oll yn cydgyfarfod mewn rhyw un ddeddf sylfaenol. Tybiai fferyllwyr ychydig yn ol eu bod wedi olrhain defnyddiau y byd a phob peth ynddo i'w elfenau syml. Pren, maen, dwfr, awyr, anifail, dyn—y gellid dosranu eu holl ddefnyddiau i ryw dri sylw- edd. Erbyn heddyw mae'r gred wedi meddiannu gwyddonwyr mai un sylwedd sydd yn y tri hyny— y gellir eu dattod, eu dadmer, eu toddi nes eu ceir