Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR H A UL. Crçfrís ẅrfyrìẁnr. «yng ngwyneb haül a llygad goleuni." "a gair duw yn uchaf." Rhif. 78. MEHEFIN, 1863. Cyf. 7. CONFFIRMASIWN LLANOLWEN. Hanesyn yng nghylch y trydydd Gorchymmyn. (Parhâd o tudal. 132.) Treüliodd Harri y prydnawn hirddydd haf hwn mewn ymddyddanion gwahanol. Pan aeth efe adref at ei fam, yr hon oedd yn fenyw dda, ac yn bryderus am ddysgu ei phlant yn ffordd yr Arglwydd, a hi a ofynodd iddo, a oedd efe yn deall ymad- roddion y ficer. Nid oedd Harri yn fach- genyn a ddywedai gelwydd; ac felly, daeth y gwirionedd allan, yr hyn fu yn ofid ac yn flinder mawr i'w fam dduwiol. Siaradodd yn ddwys a phwysig ag ef, ac a'i perswadiodd i ddyfod gyda hi i dy'r ficer, yr hwn, mewn caredigrwydd, a'i eynghorodd, ac a wnaeth bob ymdrech- iadau i argraffu ar ei feddwl, bwysigrwydd yr achlysur, ac a'i rhybuddiodd i ymgadw rhag llaw ym mhell oddi wrth hudoliaethau Elis; ac efe ym mhellach a gydsyniodd i osod ei enw drachefn ym mhlith yr j'mgeiswyr, mewn gobaith y byddai i feddyliau a dymuniadau mwy pwysig gael eu meithrin ynddo yn adeg ei ymbar- otoad. Ymdrechodd Harri yn ddiwyd i adennill tyb dda y ficer, trwy fod yn bresennol yn y dosbarth ar yr amserau gosodedig, yng nghyd â darllen y traethodau a roddid allan. Ar brydnawn y Sul cyn y Conífirm- asiwn, gwnaeth y ficer anerchiad neillduol i'r ymgeiswyr a'u rhieni, gan ddeisyf arnynt, sef yn neillduol ar y rhieni, i wedd'io am fendith ar 3' gorchwyl yr oedd eu plant yn ymgymmeryd ato, ac i fyned gyda Iiwynt, os oedd hyny yn alluadwy iddynt, o flaen yr esgob. Penododd y prydnawn drannoeth i roddi'r ticedau allan. Cafodd anerchiad y ficer, yng nghyd â'i gynghorion dwys, gryn argraff ar feddwl Harri; ac efe a benderfynodd yn ei feddwl i wedd'io mewn taerni ar yr Arglwydd, am ei gynnorthwyo yu yr addunedau a wneid ganddo. Ond ni wyddai cfe ond ychydig 21.-T-YII. am ddichellion ei galon ei hun, yng nghyd â grym profedigaethau. Prydnawn dydd Llun, cafodd Elis Jones hanner gwyl, ac a unodd â rhai cyfeillion iddo, i'w dreulio mewn difyrwch, ac a ddaethant mor belled a Llanolwen, i wahodd Harri gyda hwynt. " Nid oes dim modd yn y byd i mi ddyfod," meddai Harri; " canys y mae cyfarfod diweddaf y dosbarth yn cym- meryd lle heddyw yn nhy'r ficer; ac yr wyf yn myned i gael fy nhiced tuag^ at dderbyn Conflirmasiwn." " Cefais i fy nhiced boreu heddyw," ddywedai Elis; " yr oedd gormod 0 honom m ar law ein Person, ac ni ellai fod mor fauwl a'ch Person chwi. Perodd i ni ddyfod i wrando arno yn yr Eglwys; ond yr oeddwn i tu hwnt iddo; ac felly, aeth- ym gydag ereill, i ddywedyd fy nghatecism yn y festri; a dyma fy niced," gan ei ddangos yn y fan. " Yr wyf yn bresennol yn myned i fwynhau ychydig 0 ddifyrwch y prydnawn hyfryd hwn; ac chwi ellwch yn hawdd ddyfod gyda ni; chwi fyddwch yn eich ol mewn amser prydlawn i dderbyn eich ticed." Yr oedd hon yn brofedigaeth fawr i Harri; canys o bob difyrwch, nid oedd dim yn rhoddi mwy o hyfrydwch iddo na hwylio ar hyd yr afon. Ond am ennyd, efe a wrthwynebodd y brofedigaeth; eithr cariad at ddifyrwch a drechodd ei bender- fyniad, ac efe a ymunodd â hwynt. "Ni ddy weda'r ficer ddim newydd y prydnawn hwn," ebai ef yn ei feddwl; " a phaddrwg sydd i hwylio yn y bad lawr ar hyd yr afon ? Digon tebyg mai rhoddi ein ticedau yn unig i ni sydd yng ngolwg y ficer; ac mi allaf fi gael fy nhiced fy hun dra- chefn." Cymdeithion Elis oeddynt dri neu bedwar o fechgynach ieuainc, oll yn anad- nabyddus i Harri. . Ar y cyntaf. brawychai