Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

jl _rí JljL A. U Ju yng ngwyneb haul a llygad golbuni. "a gaie duw yn uchaf." Rhip. 8.3. TACHWEDD, 1863. Cyf. 7. M A R I A Yn lluddedig iawn gan fy nhaith trwy gydol hirddydd haf, «yrhaeddais bentref mewn gwlad ddymunol yn Neheudir Cymru; ac wedi cael lletty mewn tafarndy prydferth, aethym i'm gwely yn gynnar, er mwyn diluddedu fy hun ar ol blinder y dydd, er mwyn bod yn barotach dranoeth i gyfodi, ac er mwyn gweled prydferthwch y llanerchau, a'r gwahanol olygfëydd a ymgynnygient i'm sylw. Cysgais yn gy- surus, a deffroais yn fore dranoeth; ond nid yn unig yr oedd y wawr wedi bod yn foreuach, ond yr haul hefyd wedi dyfod allan yn ei gerbyd trwy borth y dydd, ac yn esgyn i'r cyhydedd, gan wasgaru ei belydrau llon a gwresog dros y wlad. Ymwisgais cyn gynted ag y gellais; ac wedi diolch i Dad y trugareddau am ofalu am danaf ar fy nhaith, ac am fy niogelu y nos a aeth heibio, ymddangosais ym mhlith y teulu; a chan fod y bwrdd yn arlwyedig, cymmerais fy ymborth gyda'r teulu; ac yna aethym allan i'r heol, heb unrhyw gynllun genyf wedi ei ffurfio gyda golwg ar ysgogiadau'r dydd. Ar y llaw ddeheu o'm blaen, canfyddwn yr hen Eglwys blwyfol wledig, yr hon oedd newydd gael ei hadgyweirio; a'i hynafiaethau ynddi ei hun—yn ei dorau a'i ífenestri bwaog—yn hen gaerau ei mynwentydd—yn yr hen ywen wyrddlas—ac yn yr hen geryg beddau, a naddiadau rhai o honynt braidd yn annealladwy. Mae golwg ar yr hen Eglwys a'r fyn- went blwyfol, yn dwyn dyn dan ryw deim- ladau cryfion iawn. Dyma dy cyssegredig i Arglwydd Dduw y Uuoedd, er ys oesau ar gefn oesau. Dyma lle bu yr hen dadau, y teidiau, a'r hen ffyddloniaiä yn offrymu eu gweddiau at orsedd mynydd sancteidd- rwydd Duw yn y goruchelder. Dyma lle y dyrehafwyd, er ys pymtheg cant o flyn- yddoedd, mwy neu lai, y gân ddwyfol i'r Ion, am gofio, ac am ddyrchafu penau 41.—vii. plant Adda o byrth marwolaeth. A thyma île yr ymgynnallai y ffyddloniaid, oes ar ol oes, i gyd-ddyrchafu eu llais, gan ddy- wedyd, " Ti, Dduw, a folwn: Ti a gydna- byddwn yn Arglwydd. Yr holl ddaiar a'th fawl di: y Tad tragwyddol." Pan yn rhodio ar hyd llwybrau'r fyn- went, yr oeddwn yn sathru ar, ac yn rhodio rhwng gwelyau pridd hynafiaid, teidiau, a thadau y plwyf. Yma y maent, er yr oesau boreuol, hyd yr oes hon, wedi, ac yn cymmeryd eu hun yn dawel, hyd y boreu mawr y cenir yr udgorn, ac y cyf- odir y meirw o'r priddellau mewn anllygr- edigaeth. Mae'r meddwl dynol yn arferol o lonyddu, a'r fynwes ddynol yn arferol o dawelu, yn llanerch y meirwon, lle maent hwy, yn eu hun a'u heddwch, yn eu gwely- au; ac y mae yn fynych yn cyfodi hiraeth ar y byw am fod gyda'r meirwon. " O herwydd yn awr mi a gawswn orwedd, a gorphwys, a huno; yno y buasai llonydd- wchi mi; gyda breninoedd a chynghorwyr y ddaiar, y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fanau anghyfannedd; neu gyda thywysogion ag aur ganddynt, y rhai a lanwasant eu tai ag arian." Draw, encyd o ffordd o'r pentref, o'r tu dwyreiniol iddo, yr oedd glasfryn uchel yn yr amlwg, ac, mewn ymddangosiad, megys yn gwahôdd y teithiwr i ymweled ag ef, ac megys yn sibrwd yn ei glustiau, y rhoddai efe dâl digonol i'rneb a gymmerai y drafferth o esgyn ei grib. Teimlais ynof fy hun awydd neillduol i ymweled â'r bryn; ac yn ddiattreg, cyfeiriais fy nghamrau tuag ato; ac wedi rhyw gym- maint o drafferth, cyrhaeddais ei gopa, a gwelwn megys paradwys ddaiarol, yn ei holl brydferthwch a'i gogoniant, yn ym- agor o'm blaen. Nid oes dim mor hyfryd a golygf ëydd natur yn dadblygu eu hun- ain, y naill ar ol y llall, i olygfa y neb a fyddo yn ymhyfrydu yn ei golygfëydd.