Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. €tfxw €mîi\ûìm. "YNG ngwyneb haul a llygad golbuni.' "a gaie duw yn uchaf." Rhip. CHWEFROR, 1864. Cyf. 8. DUW YN GYMHORTHWR. "O ísraeî, tydi a'th ddinystriaist dy hun; ond ynof Fi y mae dy gymhorth."—Y Pbophwyd Hosea. Yr oedd cyffion cenedl Israel wedi cael eu dyrchafu yn uchel iawn gan yr Arglwydd; a than j'mrwymiadau y cyfamraod a wnaeth Efe â hwynt, yr oeddynt yn gedyrn yn y ffydd, trwy yr hon y mae yr henuriaid wedi cael gair da. " Trwy ffydd, Abra- ham, pan ei galwyd, a ufuddhaodd, gan fyned i'r man yr oedd efe i'w dderbyn yn etifeddiaeth; ac a aeth allan heb wybod i ba le yr oedd yn myned. Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Iacob ac Esau am bethau a fyddent. Trwy ffydd, lacob, wrth farw, a fendithiodd bob un o feibion Ioseph; ac a addolodd â'i bwys ar ben ei ffon." Daeth y genedl hon yn anrhydeddus o'r Aipht, yn cael ei harwain gan gwmwl a mwg y y dydd, a chan golofn o dân fflamllyd yn y nos, ar ffyrdd a llwybrau yr anialwch; a phan gyrhaeddasant Canaan, yno, Duw lor y nefoddd a ymladdodd eu rhyfeloedd, ac a'u dododd mewn meddiant o'r wlad dda hòno ag y mae ei henw yn gyssegredig trwy yr holl oesau. Crybwylla'r Salmydd am genedl Israel dan y ffugr o winwydden, ac am ogoniant y winwydden hon, wedi iddi gael ei pblanu yn rhandir etifeddiaeth y Goruchaf. Fel y caniyn y mae efe yn dywedyd:—" Mud- aist winwydden o'r Aipht: bwriaist y cen- edloedd allan, a phlenaist hi. Arloesaist o'i blaen, a pheraist i'w gwraidd wreiddio; a hi a lanwodd y tir. Cuddiwyd y myn- yddoedd gan ei chysgod; a'i changenau oedd fel cedrwydd rhagorol. Hi a estyn- odd ei changau hyd y môr, a'u blagur hyd yr afon." Cafodd y winwydden le da i wreiddio yn naiar Canaan; ac o dan warcheidwadaeth a bendith yr Hollalluog, hi a ymestynodd, ac a fiagurodd, a hi a wnaed yn ogoniant yr holl ddaiar, ac yn glodfawr ym mhlith yr holl geneclloedd. 5—VI*. Pan roddai Moses ei gyfarwyddiadau i Israel yn yr anialwch, dy wedai, " O blegid pa genedl mor fawr, yr hon y mae Duw iddi yn nesäu ati, fel yr Arglwydd ein Duw ni, ym mhob dim a'r y galwom arno? A pha genedl mor fawr, yr hon y mae iddi ddeddfau a barnedigaethau cyfiawn, megys yr holl gyfraith hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi heddyw ger eich bron chwiî" Ond o'r dechreuad hyd yr awr hon, " Dyn mewn anrhydedd nid erys;" canys efe a fyn ddinystrio ei hun, er pob gweinidog- aethau a cyfarwyddiadau a roddir iddo gan Dduw y nefoedd! Mae hyn yn cael ei brofi yng nghenedl Israel—yn y win- wydden fu unwaith mor gadarn, mor gangenog, ac mor flagurog, ac am yr hon y mae'r Salmydd yn dywedyd am gyfiwr ei dinystr fel y canlyn:—" Pa ham y rhwygaist ei chaeau, fel y tyno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi? Y baedd o'r coed a'i turia, a bwystfìl y maes a'i pawr. Llosgwyd hi â thân; tor- wyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt." Ond er bod Israel fel hyn, trwy eilunaddoliaeth, a thrwy amryw bechodau ereill, yn dinystrio eu hunain, yn myned yn ddinerth, yn wyw, yn sathrfa i'w gelynion, ac yn ysbail ac yn ysglyfaeth i'r cenedloedd, y mae Duw cyfammodol Abraham, Isaac, a Iacob, yn ei drugaredd a'i ras, o anneddle ei gyssegrfa, ar fynydd ei sancteiddrwydd uchod, yn cyhoeddi â llef uchel, " O Israel, tydi a'th ddinystr- iaist dy hun; ond ynof fi y mae dy gy- mhorth." Mae cyflwr ysbrydol dyn wrth natur, yn yr iselderau dyfnaf y geilir dychymmygu am danynt; canys o uchder mawr, efe a syrthiodd i lawr; ac yn y cyflwr hwn, y mae mor ddinerth, fel nas gall, trwy ei egnion ei hun, ddyrchafu o hono yn oes oesoedd. Yng nghyflwr ei godwm erchyll, ni ateba uhrhyw ddyben iddo ymaflyd yn