Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

H A U L . €î\îm ẅrfìjritìŵt. SÍTNG NGWYNEB HAÜL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIE DUW YN UCHAF." Ihif. 87. MAWETH, 1864. Cyp. 8. BUGAIL ISRAEL. Darlunie dynion yn y cyílwr y maent gwedi myned iddo trwy bechod, fel rhai ag sydd wedi myned ar gyfediorn, ac wedi crwydro mewn anialwch m&wr. Dywedai Moses wrth Israel, fel geneu yr Arglwydd, "Cerddwch yn yr holl ffyrdd a orcfaym- mynodd yr Arglwydd eich Duw i chwi, fel y byddoch fyw, ac y byddo yn dda i chwi, ac yr estynoch ddyddiau yn y wlad yr hon a feddiennwch." Ond crwydro wnaeth Israel yn yr anialwch, oddi wrth yr Arglwydd yn fynych, gan anghofio ei ffyrdd Ef; canys hyn sydd yn natur dyn yn ei gyíîwr presennol dan bechod. Dy- weda y Salmydd am ddynion fel y canlyn: " O'r groth yr ymddyeithrodd y rhai an- nuwiol: o'r bru y cyfeiliornasant, gan ddywedyd celwydd." Meddai y Prophwyd Esaiah, "Nyni oll a grwydrasom fel defaid: troisom bawb i'w ffordd ei hun." Ac meddai yr Arglwydd trwy y Prophwyd Ierem'iah, " Ey mhobl a fu fel praidd coll- edig: eu bugeiliaid a'u gyrasant hwy ar gyfeiliorn: ar y mynyddoedd y troisant hwynt ymaith: aethant o fynydd i fryn: anghofiasant eu gorweddfa." Yn ol yr arlun hwn, ac yn ateb ym mhob dim iddo, y ceir hiliogaeth Adda ym mhob gwlad ac ym mhob oes, trwy holl wledydd ac oes- oedd y byd. Ac nid yn unig ceir dynion wedi crwydro, ond ceir hwy nt wedi crwydro ym mhell; wedi crwydro i anialwch gwag erchyll; wedi crwydro i odre y mynydd- oedd ty wyllion; ac wedi crwydro i ddyffryn cysgod angeu ysbrydol; ac wrth natur, oll dan y ddamnedigaeth. Mae cyfiwr yr hiliogaeth ddynol, fel crwydriaid wedi cyfeiliorni yn eu ffyrdd, yn ddrwg, ac yn ddrwg iawn; ond nid yn anobeithiol, trwy drugaredd; canys torodd gwawr o'r uchelder dros y mynyddoedd pell ar y ddaiar, fel y mae gobaith i'r rhai sydd ar ddarfod am danynt; o blegid y mae Duw, ei Greawdwr, yn Geidwad dyn. 9—viii. Wedi i brophwydi Duw fod am oesam a chenedlaethau yn cyhoeddi ac yn canu ar hyd fryniau a dyffrynoedd Canaan, am yr amserau gwell, esgorodd yr addewidion o'r diwedd, a chafwyd Ceidwad dyn wedi ymddangos yn y cnawd, neges yr hwn i'r ddaiar oedd, ceisio a chadw yr hyn a goll- asid; neu mewn geiriau ereill, Efe a ddaeth i fod yn Pugail ar ddynion, i'w cadw, ac i ddiogelu eu by wydau am dragwyddoldeb. "Yr Arglwydd yw fyMugail," meddai'r Salmydd; "ni bydd eisieu arnaf." Ac mewn gwlad fugeilaidd fel Canaan, yr oedd yr enw yn gynnwysfawr, ac yn llawn o gysuron i'r genedl Iuddewig. Ym- ddyrchafai y Salmydd yn ei Eugail, canys yr oedd y parotoadau yn fawrion ac yn helaethion arei gyfer gan ei Fugail: "Efe a wna i mi orwedd mewn porf ëydd gwellt- og: Efe a'm tywys ger ílaw y dyfroedd tawel: Efe a ddychwel fy enaid: Efe a'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. Ië, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angeu, nid ofnaf niwed, canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a'th ffon a'm cysurant." Yr oedd y Salmydd yn ddiau yn edrych yn ol, ac yn canfod y diogelwch ag oedd y Bugail mawr wedi ei roddi i had Abraham trwy yr oesau. Daeth Abraham allan ei hun o Ur y Caldeaid: bu yn teithio trwy wledydd y dwyrain: croesodd yr afon fawr Ewphrates: cyr- haeddodd y wlad oedd i fod yn etifedd- iaeth i'w hiliogaeth: cafodd ei barchu a'i anrhydeddu gan bendefigion y wlad; a bu farw mewn ffydd, gan ddysgwyl am ddinas ag iddi sylfaeni, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw. Nid oedd ond Abraham ei hun yng nghanol estroniaid; ac onid ydyw yn rhyfedd na chafodd ei lethu ar y ffordd, ac na buasai diwedd am dano? Duw Ior y nefoedd a ofalodd am dano, ac a wyliodd drosto yn ei holl gynniweirfëydd; canys y mae Efe yn Pugail Israel o'r decbreuad,