Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Jti JA A. U JL • ra. "YNG ngwyneb haul a llygad goleunl "a gair duw yn uchae." Rhif. 95. TACHWEDD, 1864. Cye. 8. PAPYRYN EGLWYSIG. Gweddi Gyhoeddus, neu Gyffredin. Nid rhywbeth newydd yw addoliad cy- hoeddus yr Arglwydd, o blegid y mae Efe, trwy yr oesau, yn cael ei addoli felly gan y ffyddloniaid yn gynnulleidfaol. Gynt, dan yr Hen Destament, yr oedd addoliad cyhoeddus y genedl Iuddewig yn Ierw- salem, ac yn y deml yn neillduol y cedwid ef, ar ol iddi gael ei hadeiladu. Y mae cyfeiriadau mynych at yr addoliad cy- hoeddus hwn yn ysgrythyrau yr Hen Destament, ac yn benodoì feliy yn Llyfr y Salmau, megys yn yr ymadroddion can- lynol:—"Deuwch, canwn i'r Arglwydd: ymlawenhäwn yn nerth ein hiechyd. Deu- wch ger ei fron Ef â diolch: canwn yn llafar iddo â salmau. Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau ger bron yr Arglwydd ein gwneuthurwr. Ewch i mewn i'w byrth Ef â diolch, ac i'w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a ben- dithiwch ei enw." Yr oedd yr Eglwys Apostolig Gatholig hefyd yn addoli yn gynnulleidfaol, ac yn gyhoeddus, ond fel yr oedd erlidigaethau brawychus y canrif- oedd boreuol yn fynych yn rhwystro ei haddoliadau cyhoeddus, ae yn gosod yr hen ffyddloniaid gynt dan yr angenrheid- rwydd o addoli yn ddirgelaidd. Mae gweddi ddirgel, dim ond rhwng dyn a'i Greawdwr, a gweddi deuluaidd, dim ond rhwng teulu a'u Creawdwr, yn wahanol oddi wrth weddi gyhoeddus gyn- nulleidfaol, pan fyddo'r gynnulleidfa yng nghyd, yn cyd-addoli yr Arglwydd, ac yn cyd-alw ar ei enw gogoneddus Ef. Nid mater un, ond mater pawb; nid angen- rheidiau un, ond angenrheidiau pawb, sydd i fod mewn gweddi gyhoeddus, neu gy- ffredin, fel ag y byddo yr holl gynnull- eidfa yn cydgyfarfod yn yr holl ddeisyf- 41—vin. iadau a'r ymbiliau a wneîr. Yn awr, y mae yn bwnc ag sydd yn galw am ystyr- iaethau difrifol addolwyr, pa fodd y cyf- lawnir yr addoliad, fel ag i fod yn fwyaf Uesol ac adeiladol iddynt, nid gyda golwg ar y dyn oddi allan, i'w goglais a'i gy- nhyrfu, ond gyda golwg ar lesâd ac adeil- adaeth ysbrydol y dyn oddi mewn. Y gweinidog yw yr arwein}'dd mewn addol- iad cyhoeddus, yr hwn sydd i weddîo naill ai dros neu gyda'Y gynnulleidfa. Yn yr addoliad cyhoeddus, nid yw i weddio dros, ond gyda'r gynnulleidfa; ac os efe ar y pryd fydd yn ffurfio ac yn traddodi y meddyliau â'r geiriau cyntaf ddeuant i'w feddwl, oddi ar ei deimladau personol ei hun, pa fodd y gall y gynnulleidfa uno ag ef, galon a llais, pan y bydd yn y fath ddyeithrwch oddi wrthynt? Ni all yr addoliad cyhoeddus fod yn addoliad cyn- nulleidfaol, os bydd yn ymddibynu ar synwyr, neu dduwioldeb, neu hyawdledd, neu ddoniau un dyn yn unig. Nid dyfod i'r addoliad cyhoeddus i wrando gweddi, yw dyben yr addoliad, ond dyfod yng nghyd i uno mewn gweddi, an i ^rf-wedd'io. Pa fodd y mae cyrhaeddyd y dyben a'r amcan hwn yn y modd tebycaf i fod yn llesol ac adeiladol? Yr wyf fi yu ateb, mai trwy arfer a defnyddio ffurfiau o weddîau, neu wedd'iau cyfansoddedig at addoliad cyhoeddus. Ond ni wna yr ateb hwn y tro, oddi eithr ei fod yn seiliedig, nid yn unig ar hanesyddiaeth eglwysig, ond ar yr Ysgrythyrau Sanctaidd eu hun- ain. Pan y byddom ni yn myned i chwilio am egwyddorion ac arferion crefydd, mae yn rhaid i niwneuthur yr ymchwi],neu yr ymchwiliadau, lle y maent i'w cael, ac nid