Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L €ì\îxm (fefijrito. "yng ngwyneb haul a llygad goleuni." "a gair duw yn uchaf." Rhif. 96. RHAGFYR, 1864. Gyf. 8. PAPYRYN EGLWYSIG. rhif m.— Gweddio. Mab achos i ofni fod nifer luosog o bobl dan dwyll yng nghylch gwedd'io, a pha beth yn briodol ÿw gweddio; ac yn Ue troi am gyfarwyddiadau at y gwaith, dysgant gan y naill y llall, a dilynant y naill y Uall, ac felly dan eu dwylaw yn y tywyll- wch. Yn ei Epistol cyntaf at y Corinth- iaid, y mae yr Apostol Paul yn dywedyd felhyn:—"Beth, gan hyny? Mi a wedd- îaf â'r ysbryd, ac a wedd'iaf â'r deall hefyd." Yr oedd Eglwys Corinth yn rhagori mewn doniau ysbrydol. Yr oedd y dawn o lefaru â thafodau yn hynod ynddi; a phan yr oedd y personau ag oeddynt yn feddiannol ar y dawn hwn, yn adeiladu eu hunain, nid oeddynt yn adeiladaeth i ereill; a chynghor yr apostol yw, ar fod i'w doniau ysbrydol fod er llesâd ac adeiladaeth ereill hefyd. Yr egwyddor ag y mae yr Ysbryd Glân wedi osod lawr, yn yr Epistol cyntaf hwn at y Corinthiaid, yw, bod yn rhaid gwedd'io â'r ysbryd, ac â'r deall hefyd; ac y mae rheswm yn dywedyd bod yr egwyddor yn iawn. Y mae Eglwys Lloegr, yn ystyriol ac yn bwyllog, wedi ymdrechu cadw at yr eg- wyddor hon, sef bod yn angenrheidiol, tuag at i weddi fod yn gymmeradwy, ac er adeiladaeth, ei bod i gael ei gwneuthur â'r ysbryd ac â'r deall hefyd: ac os ydyw ymadroddion yr Ysgrythyrau yn gosod allan ein hamrywiol angenionni; acos yw geiriau yr un Llyfr yn briodoí i gyffroi ein ffydd, ac ymadroddion yr unrhyw Lyfr, pan yn dadgan am drugareddau Duw i ddynion, yn briodol i gyffroi ein diolch- garwch; y mae ffurf gwasanaeth yr Eg- ìwys yn addas yn yr holl bethau hyn, am fod y gwedd'iau yn swn ac yn iaith y Beibl. 45—yiii. Mae'r wybodaeth o'n hangenion, y mae gwrthddrych ein ífydd, ac y mae pwnc ein diolchgarwch yng ngwasanaeth yr Eglwys, mewn geiriau ag sydd wedi cael eu casglu oddi ar faes yr Ysgrythyrau. Mae iaith, ymadroddion, a geiriau ein Beibl, oddi eithr ychydig iawn o eithriadau, yn eglur a dealladwy, ac felly y mae gweddíau gwasanaeth yrEglwys; ac felly, y maent ym mhob ystyr yn addas i ni i ddadgan y gweddiau sydd o'r ysbryd, ac o'r deall hefyd. A goreu pa oreu y byddo ygweddîau hyn yn cael eu'deall, yn gystal a'r rhesymau dros eu bod wedi cael eu trefnu megys ag y maent yn y gwasan- aeth; canys trwy hyn y'n dysgir i wedd'io â'r ysbryd, ac â'r deall hefyd. Dangoswyd yn y Papyryn blaenorol, y buddioldeb o ffurfiau o weddíau yn y gwasanaeth. Gan nad pa mor fawr y gall doniau gweddi rhai dynion fod, eto mae'r doniau yn fynych yn amrywio, ac y maent yn fwy ar ryw amserau na'u gilydd. Ee effeithir yn fynych ar y meddwl gan y corff; ac y mae y rhan fwyaf o'r rhai a arferant weddi, yn brofiadol o hyn. Pan fyddo'r coríf yn drymllyd, yn swrth, yn niwlog, ac yn glafaidd, y mae'r meddwl hefyd yr un modd; a chan fod cymmaint o amrywiaeth mewn dynion, a bod cym- maint o amrywiaeth hyd yn oed mewn dyn ei hun, y mae yn amlwgfod ffurf ysgryth- yrol o wedd'iau, trwy y rhai y gallwn ddadgan ein teimladau o alar am bechod, a'n ífydd yn yr Aberth mawr a wnaed dros bechod, a'n diolchgarwch am y tru- gareddau a dderbyniasom, yn fwy adeil- adol, na bod pob gweinidog y myned trwy y gwasanaeth yn ei ffordd, ei drefn, a'i deimladau ei hun; yn ddyrysedig yn ei