Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 1. GORPHENHAF. Cyf. I. ANNERCHIAD. Yr ydym yn awr yn cyflwyno y Rhifyn cyntaf o'r Haul i'r Darllenydd, ac wrth wneuthur hynny, yn ei ystyried yn ddyledswydd orphwysedig arnom i roddi rhyw hyspysiadau gyda golwg ar natur y Cyhoeddiad hwn, ynghyd â'r egwyddorion a'r dull yr ydym yn bwriadu ei ddwyn ym mlaen. Ond cyn gwneuthur ein meddyliau yn hyspys ynghylch y pethau crybwylledig, tybiwn ei fod yn angenrheidiol i roddi ger bron y Darllen- ydd ychydig o rag-sylwadau gyda golwg ar sefyllfa grefyddol a pholitic- aidd y dywysogaeth, gwrth-darawiad gwahanol bleidiau yn erbyn eu gilydd, ynghyd â'r ormes a ddefnyddir, nid yn unig er cam-arwain dynion, ond hefyd er eu gwneuthur yn sicr yn llyffetheiriau caethiwed. Mewn perthynas i sefyllfa grefyddol y dywysogaeth yn bresennol, y dywediad, a'r dyb gyffredin hefyd ydyw, na bu mewn unrhyw oes erioed mor oleu, nac mor lliosog yn ei duwiolion er dyfodiad cyntaf yr efengyl i'r wlad hyd yr awr hon. Y mae yr Ysgrythyrau yn nwylaw pawb, llyfr- au crefyddol yn amlhau, addoldai yn cael eu hadeiladu, y cynnulleidfaoedd yn lliosog, a chrefydd yn beth cyffredin yng ngenau ac ym mhlith pob cymdeithion ; pawb yn gallu darllen, braidd, drwy yr holl dir; pregethau lawer iawn ar y Sabbath ac ar ddiwrnodau yr wy thnos; a phob breintiau a chyfleusderau crefyddol yn cael eu mwynhau o oror i oror, fel y gellir dywedyd am bob peth o'r natur hwn, eu bod mewn cyflawnder mawr yn ein plith. Ond er yr holl bethau a enwyd, wrth edrych yn fanwl, a sylwi ar bob dosparthiadau yn ein gwahanol gymmydogaethau, y mae yn amlwg iawn bod rhyw beth, a'r peth pennaf hefyd, yn ol, oblegid wrth y ffrwyth, yn ddios, yn ol geiriau ysprydoliaeth, y mae adnabod y pren. Gwelir a chlywir gweinidogion yr efengyl yn ymrafaelio â'u gilydd, yn traflyngcu eu gilydd, ac yn dra mynych yn gwneuthur pob egnîon ac ymdrechion i niweidio ac i ddisodli eu gilydd. Clywir am rwygiadau mynych a thrych- inebus mewn cynnulleidfaoedd ynghylch dewisiad gweinidogion, pryd y dangosir yr anghrefydd fwyaf gan y gwahanol bleidiau ; ac nid anfynych y digwydda bod cynnulleidfa wedi blino ar ei gweinidog, yn ymgynhyrfu yn ofnadwy wrth ei droi ymaith er mwyn cael un newyddach yn ei le. Ac y mae yn beth cyffredin bod mwy o gleber, ymrafaelion, terfysgoedd, traflyngcu, datguddio gẅendidau, a chnoi, mewn cymdeithasau crefyddol, nac mewn unrhyw gymdeithasau eraill; oblegid hyn, a phethau cyffelyb i hyn, rhoir y gwarth a'r gwaradwydd mwyaf ar grefydd, er mai yr un mor ogoneddus ydyw crefydd erioed,—« Ei ffyrdd yn hyfrydwch a'i llwybrau yn heddwch," ond ei bod yn cael ei chlwyfo yn dost gan bregethwyr.