Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 2. AWST. Cyf. I. DINYSTR SODOM A GOMORRAH. Ym rahob oes o'r byd y mae Iòr y nefoedd wedi gwneuthurei wyrthiau a'i ryfeddodau mawrion yn amlwg, yn yr eglurhad o ba rai y gwelwyd ef yn nisgleirdeb mantellau ei ogon- iant, hyd oni synnent yr holl gen- hedloedd, ac hyd oni chydnabydd- ent yr hollbobloedd mai efe yn unig ydoedd Llywiawdwr mawr yr holl fydoedd. Dywedir mewn iaith ddyrchafedig yn yr Ysgrythyr Lân, am ei fraich nerthol, am ei allü an- feidrol, ac am ei gadernid tragy- wyddol; ac yr ydym ni yn dystion byw mor ofnadwy ydyw efe yng nghorwyntoedd chwyrnwyllt yr wyb- rennau, mor ddychrynllyd ynrhuad- au y taranau mawrion, mor fraw- ychus yn nisgleirdeb y melltfforchog a gwreichionllyd, ac mor rhyfeddol yn nhwrf tonnau brigwyn y môr trochionog pan fei wa yn ei lidiawg- rwydd. Nid rhyfedd i ganiedydd yr Israel dan y teimlad o fawredd ac uwch-lywodraeth Brenin y saint ddywedyd bod Duw yn ofnadwy yng nghynnulleidfa y saint, ac i'w ar- swydo yn ei holl amgylchoedd, oblegid y mae efe yn teyrnasu ar yr holl dduẅiau, a phan lefaro yn ei sancteiddrwydd, y bryniau tragy- wyddol a ymgynhyrfant, y myn- yddoedd oesol a siglant ar eu seil- iau, a'r holl greadigaeth a gryna ger ei fron ef. Gogoneddus ydyw yr Arglwydd Dduw Hollalluog, a thra ardderchog yng nghyssegr glân ei sancteiddrwydd yn nef y nefoedd ; ardderchog ydyw efe ym mhob dad- blygiadau o'i fawredd a roes efe i ddyn ; ac y mae yn galw sylw ar- bennigol ei greaduriáid at ddyrchyn- feydd ei ddialeddau, pan ymwisga yn ei arfogaeth er ymosod mewn rhyfel yn erbyn y rhai hynny ni chydnabyddant ei lywodraeth ac ni ymostyngant i ddeddfau ei lys go- goneddus ef. Ac yra mhlith yr am- rywiol dymhestloedd a anadlodd efe er dymchwelyd y rhai a gyhoedd- asant ryfel yn erbyn ei orsedd, y mae dinystr dtnasoedd y dyffryn yn nodedig yn yr Ysgrythyrau sanct- aidd ; ac er cymmaint o arwyddion digofaint Duw sydd yn gaufyddedig yn y llannerch hyd heddyw, etto y mae yma faes ehang, ar hyd yr hwn y gellir casglu amrywiol dywysennau. Yn ninystr y dinasoedd dan sylw, y gwelir,— Bod hir gyndynrwydd dynion yn treulio amynedd Buw aìlan. Hir ymarhous ydyw efe tuag at ei gread- uriaid, oblegid y mae ei amynedd yn fawr; ac nid ydyw efe yn ymhoffi anelu a gollwng ei daranfolltau er dyrnodio ei greaduriaid yn gelan- eddau, oblegid er ein cysur mawr ni, y mae yn well ganddo drugar- hau. Pan droseddodd tad y rhyw-