Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 6. YR HAUL. RHAGFYR, 1835. Cyf. 1, RHYFEDDODION Y GREADIGAETH. Lliosog ydyw y nifer hynny o blant Adda a dreuliasant oes hir ar y ddaear, ac a ddisgynasant i froydd distaw a thywyll taleithiau y bedd, heb wneuthur fawr sylw yn eu bywyd ar y rhyfeddodau a'u ham- gylchynant, ac ar y gwrthddrychau mawreddog hynny a wahoddent eu sylw ar bob llaw o'r llwybrau a deithiwyd ganddynt yn eu pererin- dod drwy y fuchedd hon. Dyrch- afodd amryw eu llygaid tua'r wyb- rennau, lle y mae llugyrn Iôr wedi eu goleuo yn y maesydd tragyw- yddol, heb weled dim o fawrhydi y fraich a'u cyfleodd yno; rhod- iodd amryw drwy froydd prydfer- thaf y ddaear lle yr ymagorai pob rhywogaethau o flodau mewn hardd- wch ail i Baradwys ei hun, heb gymmaint a synnu oblegid eu teg- wch, ond eu sathru yn ddiystyr yn y llwch ; a tharawodd swn rhuadau taranau Duw, ynghyd â thwrf ei gorwyntoedd chwyrnwyllt glust- iau mil myrdd o'r rhai na feddyl- iasant fẁy am Reolwr mawr pob peth na'r anifeiliaid a ddifethir. Nid oes unrhyw achos i feibion a merched dynion fod mor anwybodus ag y maent; ni raid iddynt fod dan gymmaint llenni o dywyllwch, ac ni raid chwaith i'w meddyliau fod megis wedi. eu cloi mewn ogofau lle ni estynodd llewyrch y dydd ei deyrnas, oblegid y mae llyfr mawr ac ehang wedi ei argraphu gan yr uchel Dduw, yr hwn y gall pob iaith ac ymadrodd dros wyneb yr holl ddaear ei ddarllen, a thrwy ei ddarllen ddwyn eu calonnau i ddoethineb. Per ganiedydd yr Israel a droai ac a ddarllenai y llyfr mawr hwn, ac mewn per lewyg- feydd nefol y dywedai, " Y nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw, a'r fFurfafen sydd yn mynegu gwaith ei ddwylaw ef. Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth. Nid oes iaith nac ymadrodd lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt." Ac yn awr, yn gymmaint a bod y llyfr hwn wedi ei argraphu er ein mwyn ni, wedi ei gyhoeddi er mwyn ein buddiol- deb ni, ac yn ddadblygedig ger ein bronau ddydd a nos drwy ein holl oes, nid gormod i ni wneuthur def- nydd o hono tuag at adnabod ein Creawdwr, a rhoddi iddo y parch, y gwasanaeth, yr addoliad, a'r ofn hwnnw sydd yn ddyledus i Dduw y nefoedd oddiwrth ddynion y ddaear. Y mae y greadigaeth hon yn rhyfedd yn ei dyfodiad cyntaf i hanfodaeth. " Yr ynfyd a ddywed yn ei galon, Nid oes un Duw/'— efe a'i gwacl yn yr ystafell dywell hon, ac a ddarbwylla ei hun i fod yn Atheist dan y llenni duon a deyrnasant ym mynwes, ac a oblyg-